Ceisiadau Rownd 1 yn agor
Dyddiad cau ceisiadau Rownd 1
Canlyniad Rownd 1
Ceisiadau Rownd 2 yn agor
Dyddiad cau ceisiadau Rownd 2
Canlyniad Rownd 2
Ceisiadau Rownd 3 yn agor
Dyddiad cau ceisiadau Rownd 3
Canlyniad Rownd 3
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cynnig rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC i ariannu, hyrwyddo neu gefnogi digwyddiadau sydd yn cael eu trefnu gan ein Cymrodyr.
Os ydych chi’n Gymrawd a’ch bod chi’n cynllunio digwyddiad a fydd yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, rydych yn gymwys i wneud cais am gefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae ceisiadau ar agor i holl Gymrodyr presennol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Fel Cymrawd, mae’n rhaid i chi wneud cais ar ran sefydliad, busnes neu sefydliad arall a fydd yn cynnal y digwyddiad arfaethedig – ni allwn ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau sydd yn cael eu trefnu gan unigolyn.
Rydym yn cynnig 4 math o gefnogaeth – gallwch wneud cais am un neu bob un o’r rhain, yn dibynnu ar beth fyddai eich digwyddiad yn elwa ohono:
Gallwn ddarparu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau a fydd yn cyfrannu at hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru. Gall y digwyddiadau hyn fod mewn person neu ar-lein, a chynnwys; darlithoedd, cynadleddau a symposia, gweithdai, trafodaethau panel a digwyddiadau bord gron, digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, e.e. gwyliau ac arddangosfeydd, a sesiynau hyfforddi. Rydym yn annog y defnydd o lwyfannau cyfarfod ar-lein er mwyn sicrhau bod y digwyddiadau a gefnogir gan y cynllun hwn mor hygyrch i gymaint o gynulleidfaoedd â phosib, lle bo hynny’n briodol.
Bydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys mynychwyr o du hwnt i sefydliad/corff y trefnydd neu’r ymgeisydd yn unig. Os bydd y digwyddiad yn cynnwys prifysgolion, yna fe ddisgwyliwn fod mwy nag un brifysgol yn cymryd rhan. Lle bo’n briodol, disgwyliwn i ddigwyddiadau fod ar gael yn eang i gyfranogwyr ac ar draws pob sector.
Rhoddir blaenoriaeth i ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddosbarthu ymchwil un unigolyn
Dylai eich digwyddiad gael ei gynnal o fewn 12 mis o’r dyddiad y byddwch yn derbyn cadarnhad o gefnogaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Dylech ddewis y dyddiad cau sy’n gweddu orau i ddyddiad eich digwyddiad.
Mae unrhyw eithriadau wedi’u rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC.
Mae’r llinell amser yn rhoi trosolwg o pryd y mae angen cyflwyno eich cais a phryd y byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad. Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ar bob dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf canlynol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn esbonio pob un o’r meini prawf hyn yn y ffurflen gais.
Gofynnir i ymgeiswyr fynd i’r afael â phob un o’r meini prawf hyn mewn 250 gair neu lai ar y ffurflen gais – gall y manylion a ddarperir fod yn gymesur â faint o gefnogaeth rydych yn gofyn amdano ac ym mhob achos, rydym yn eich annog i gadw’ch ymatebion yn gryno ac i’r pwynt.
Os ydych yn dymuno creu drafft o’ch atebion cyn llenwi’r ffurflen gais ar-lein, gallwch gael mynediad i fersiwn word yma.
Os fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i ddarparu’r cefnogaeth y cytunwyd arno ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn gofyn i’ch digwyddiad/trefnwyr lynu at y canlynol:
Os ydych wedi cael cyllid tuag at ariannu eich digwyddiad, rydym yn disgwyl cael ein hanfonebu o fewn tri mis o ddyddiad y digwyddiad. Yn ogystal, byddwch cystal â darparu diweddariad byr ar y digwyddiad a rhannu lluniau/data lle bo’n berthnasol. Os na wariwyd cymaint ag a ddisgwyliwyd ar y gweithgaredd, yna disgwyliwn y byddwch yn ein hanfonebu’n unol â hynny.
Os nad oes gan eich sefydliad y cyllid ar gael i’n hanfonebu ni’n ôl-weithredol, fe wnawn weithio â chi i gytuno ar amserlen amgen ar gyfer talu.
Mae rhagor o fanylion am y gofynion hyn yn cael eu rhestru yn y Polisi Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC llawn.
Gallwch wneud cais ar gyfer y rhaglen Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC drwy’r ffurflen gais yma. Gallwch ddarllen ein polisi llawn yma, gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’ch cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni ar: lsw@wales.ac.uk