Mae medalau a gwobrau Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) wedi’u creu i gydnabod cyflawniadau rhagorol ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n gweithio i ddatblygu gwybodaeth a’i heffaith gadarnhaol ar ddyfodol Cymru. Mae’r medalau a’r gwobrau yn adlewyrchu ystod mor eang â phosibl o ddisgyblaethau a meysydd gwaith, a chawsant eu creu i ddathlu rhagoriaeth ar draws sbectrwm eang.
I gefnogi hyn, wrth greu’r fframwaith fedalau a gwobrau newydd, roeddem wastad yn ystyriol o uchelgeisiau EDI y Gymdeithas. Mae hyn yn bwysig, oherwydd rydym yn gwybod bod tegwch a’r amrywiaeth a ddaw ohono, yn dod â gwell canlyniadau, yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau ac yn annog arloesedd.
Mae’r gwaith hwn yn deillio’n uniongyrchol o Genhadaeth a Nodau Strategol Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n trafod hyrwyddo cynhwysiant a chynrychioli amrywiaeth ein cenedl.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud:
Sut allwch chi gefnogi hyn:
Os ydych yn awyddus i enwebu – ystyriwch y rhwydweithiau traddodiadol yr ydych yn rhan ohonynt ac archwilio ffyrdd o ehangu eich chwiliad a mynd ati i chwilio am ymgeiswyr amrywiol. Cewch enwebu ymgeisydd o unrhyw sefydliad neu ddisgyblaeth – nid oes rhaid iddynt fod yn rhan o’ch rhwydwaith.
Gall amrywiaeth ddigwydd ar sawl ffurf, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r naw nodwedd warchodedig.
Ystyriwch groestoriadedd – y fframwaith sy’n cydnabod sut mae’r rhain ac agweddau eraill o hunaniaeth person yn gorgyffwrdd a chyfuno i greu persbectif unigryw. Efallai yr hoffech ystyried rhannu sut mae persbectif unigryw eich ymgeisydd wedi cyfrannu at gyflawni’r hyn rydych yn ei ddathlu.
Beth mae hyn yn ei olygu:
Drwy wreiddio ein harferion EDI yn y fframwaith fedalau a gwobrau, byddwn yn gwobrwyo rhagoriaeth yn deg ac yn mynd i’r afael â rhwystrau systemig.
Byddwn yn sicrhau bod y cyfle i gael eich enwebu neu i ennill medalau a gwobrau yn agored i bawb sy’n gymwys.