Yr Athro Bhushan Karihaloo

Etholwyd: 2012

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Peirianneg

Yn flaenorol Athro Arloesi Concrit Hybrid Laing O’Rourke, yr Athrofa Mecaneg a Deunyddiau Uwch, Ysgol Peirianneg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Gyda thristwch sylweddol y cyhoedda Cymdeithas Ddysgedig Cymru y bu farw Bhushan Karihaloo ar 22 Awst 2025. Fel arweinydd rhyngwladol amlwg ym maes mecaneg toriadau a deunydd strwythurol, roedd gyrfa ddisglair yr Athro Karihaloo yn llawn manyldeb ysgolheigaidd, cydweithredu rhyngwladol ac ymrwymiad diflino at addysg ac ymchwil.

Enillodd yr Athro Karihaloo ei BE o Brifysgol Ranchi, India, MTech mewn Peirianneg Strwythurol o IIT Bombay, PhD o Brifysgol Peirianneg Sifil Moscow, a DEng o Brifysgol Sydney. Daliodd swyddi athro amlwg iawn ym mhrifysgolion:  Newcastle (NSW), Sydney, Aalborg (Denmarc) a Chaerdydd, a phenodiadau blaenllaw ymweliadol ym mhrifysgfolion: Northwestern, Rhydychen, TU Denmark, Peking etc.

Yn 2006, gwobrwywyd yr Athro Karihaloo gyda’r Fedal Griffith arbennig, gan y Gymdeithas Uniondeb Strwythurol Ewropeaidd am ei “ymchwil rhagorol ym maes mecaneg toriadau damcaniaethol a thoriadau mewn deunydd lled-frau”. Yn 2012, cafodd ei ethol fel un o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gydnabod ei gyfraniadau helaeth i beirianneg ac academia yng Nghymru. Yn 2024 a 2025 dyfarnwyd Gwobr Arweinydd Peirianneg a Thechnoleg Research.com y DU iddo – gan amlygu ei arweinyddiaeth a’i effaith barhaus ar ymchwil mewn peirianneg.

Roedd cynnyrch ysgolheigaidd yr Athro Karihaloo yn sylweddol ac yn ddylanwadol. Bu’n awdur ar dros 400 o bapurau technegol, dau lyfr o awdurdod ar fecaneg toriadau concrid a serameg, ac yn gyd-awdur ar un llyfr ar deg ar optimeiddiad ac uniondeb. Roedd yn brif gyd-awdur ar y gyfres glasurol deg cyfrol ar Comprehensive Structural Integrity, ac fe enillodd y wobr Cyfeiriad Peirianneg Gorau gan y Gymdeithas Americanaidd ar Addysg Beirianneg yn 2004.

Roedd ei wasanaeth golygyddol yr un mor ddisglair: gwasanaethodd fel Golygydd Cyswllt ar gyfer Mechanics of Materials, The International Journal of Fracture, ac roedd yn aelod a barchwyd yn fawr iawn ar fyrddau golygyddol amryw o gyfnodolion rhyngwladol.

Dyfarnwyd iddo: Aelod Anrhydeddus Cymdeithas Fecaneg y Weriniaeth Siec (1989), Cymrawd Anrhydeddus Cyngres Ryngwladol Toriadau (2001), a DSc (Ca, Anrh.) gan Brifysgol St Petersburg (2007). Llwyddodd cyfraniadau yr Athro Karihaloo i bontio ffiniau rhanbarthol, gan atgyfnerthu ei statws fel awdurdod byd-eang ar fecaneg.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Karihaloo oedd Cyfarwyddwr Sylfaenol y Ganolfan Ymchwil y Sefydliad Mecaneg Ddamcaniaethol, Gymhwysol a Chyfrifiadol, a luniodd ddyfodol peirianneg sifil a chyfrifiadol drwy arloesedd, mentoriaeth ac arweinyddiaeth.

Ar draws y brifysgol, ac yn arbennig felly yn yr Ysgol Beirianneg, cafodd ei edmygu a’i barchu nid yn unig am ei gyflawniadau academaidd, ond hefyd am ei golegoldeb, haelioni a’i ymrwymiad diflino wrth feithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Er y bydd pawb a oedd yn adnabod Bhushan yn ei golli, bydd ei etifeddiaeth yn parhau yn yr holl ddysg a ddatblygodd, y myfyrwyr a ysbrydolwyd ganddo, a’r safonau uchel o ymchwil ac addysgu a gyflawnodd.

Y tu hwnt i faes academia, roedd cynhesrwydd a dynoliaeth Bhushan yr un mor amlwg. Roedd mor agos at ei deulu, a doedd dim byd yn rhoi mwy o bleser iddo na threulio amser gyda’i deulu a’i gyfeillion annwyl. Bydd ei gyfeillion yn ei adnabod am ei wybodaeth gyfffredinol anhygoel (gan gynwys bod yn rhugl mewn 6 iaith), ei sgyrsiau deallusol, ei fwynhad o lenyddiaeth a chriced, a’i allu i greu hiwmor hyd yn oed mewn adegau anodd.

Mae’n gadael ei wraig Alla, ei feibion Constantine ac Andre, ei lysfab Nikolai a’i lysferch Lala, a phump o wyrion ac wyresau.

Paratowyd gan yr Athro Roger Falconer (Yr Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd)

yn ôl i'r brig