Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil 2026

Dyddiadau Allweddol

5 Ionawr 2026

Galwad yn Agor

23 Ionawr 2026

Galwad yn cau am 4pm

ar ôl Chwefror 2026

Dyddiadau Cychwyn ar gyfer Prosiectau

30 Mehefin 2026

Adroddiad Dros Dro

31 Awst 2026

Adroddiad Terfynol

Arianwyr: MEDR a Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mwyafswm gwerth y grant: £3,000
Nifer y grantiau sydd ar gael: 13
Ceisiadau’n agor:
5 Ionawr 2026
Ceisiadau’n cau:
23 Ionawr 2026, 4pm

Yn yr hinsawdd ariannu Addysg Uwch bresennol, mae cyllid sefydliadol ar gyfer Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil yn gynyddol gyfyngedig. O ganlyniad, mae llawer o rwydweithiau a oedd yn ganolog i gryfhau diwylliannau ymchwil ar lawr gwlad bellach heb gefnogaeth ac mewn perygl o gau. Nod Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw mynd i’r afael â’r her hon drwy ddarparu hyd at £3,000 i gefnogi rhwydweithiau ymchwilwyr presennol neu sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru i barhau i gynnig gweithgareddau cydweithio hanfodol o ran diwylliant ymchwil. Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wrth lansio’r cynllun grant newydd hwn.

Beth yw rhwydwaith diwylliant ymchwil?

Gellir deall diwylliant ymchwil yn fras fel y gwerthoedd, yr ymddygiadau a’r gefnogaeth strwythurol ar y cyd o fewn prifysgolion, sefydliadau cyhoeddus, neu gyrff ymchwil trydydd sector sy’n dylanwadu ar sut mae ymchwil yn cael ei chynnal, ei phrofi a’i gwerthfawrogi gan unigolion a chymunedau. At ddibenion y grant hwn, rydym yn diffinio Rhwydwaith Diwylliant Ymchwil fel grŵp o ymchwilwyr sy’n dod ynghyd i fynd i’r afael â her neu ddiffyg penodol o fewn y tirlun ymchwil. Gall Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil gymryd sawl ffurf; mae enghreifftiau’n cynnwys rhwydweithiau sy’n canolbwyntio ar heriau a wynebir mewn cyfnod penodol o ran gyrfa, dileu rhwystrau i ymchwilwyr â nodweddion gwarchodedig, a chymunedau sydd wedi’u trefnu o amgylch disgyblaethau penodol neu ddiddordebau ymchwil trawsddisgyblaethol.

Gall rhwydweithiau ymchwil weithredu o fewn un sefydliad neu ar draws sefydliadau. Gallant fod wedi’u seilio mewn un ddisgyblaeth academaidd neu fod yn rhyngddisgyblaethol.

Gall ymchwilwyr neu grwpiau o ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru gyflwyno ceisiadau. Er nad oes angen i bob aelod o’r Rhwydwaith fod yn gweithio yng Nghymru, rhaid i ymgeiswyr arweiniol a’r rhai sy’n gwneud cais am grant:

  • fod yn academydd llawn amser neu ran-amser sy’n cael ei gyflogi gan sefydliad Addysg Uwch;
  • fod yn staff llawn amser neu ran-amser sy’n galluogi ymchwil yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector sydd ag ymrwymiad amlwg i ymchwil o fewn y sefydliad dan sylw. Gellir diffinio staff sy’n galluogi ymchwil fel y rhai sy’n cefnogi datblygu ymchwil yn ogystal ag ymchwilwyr annibynnol neu llawrydd.

Rhaid i ymgeiswyr arweiniol fod â chontract, naill ai dros dro neu barhaol, yn eu sefydliad cyflogi, sy’n cwmpasu cyfnod llawn y grant.

Bydd cynigion yn cael eu hasesu gan banel a benodir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a fydd yn dod i gonsensws wrth benderfynu pa gynigion sy’n llwyddiannus. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn ôl y meini prawf a restrir yn yr adran ‘Beth rydym yn chwilio amdano’. Efallai y gofynnir i ymgeiswyr am ragor o wybodaeth cyn cadarnhau bod grant yn llwyddiannus.

Noder mai dim ond un Grant Rhwydwaith Ymchwil a Diwylliant Cymdeithas Ddysgedig Cymru y gellir ei ddal, neu wneud cais amdano, ar unrhyw un adeg.

Rydym yn awyddus i ariannu gweithgareddau sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd i fynd i’r afael â her neu ddiffyg diwylliant ymchwil o fewn y tirlun ymchwil, boed ar draws sectorau neu o fewn disgyblaeth benodol, cam gyrfa, neu nodwedd warchodedig. Dylai gweithgareddau arfaethedig gyfrannu at newid cadarnhaol mewn diwylliant ymchwil neu ddangos effaith o fewn a thu hwnt i’r byd academaidd, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth o ddiwylliant ymchwil ar draws sefydliadau o safbwynt cymunedau ymchwilwyr ar lawr gwlad.


Bydd gweithgareddau a ariennir yn canolbwyntio’n bennaf ar ddigwyddiadau a gallant gynnwys cynadleddau, gweithdai, trafodaethau bord gron, enciliadau ysgrifennu, a chyfleoedd rhwydweithio ffurfiol ac anffurfiol.
Anogir ymgeiswyr i archwilio allbynnau creadigol a gweledol fel ffordd o rannu’r wybodaeth a gynhyrchir trwy eu gweithgareddau. Gallai’r allbynnau hyn gynnwys darn ‘gwersi a ddysgwyd’, cyfres blog, cylchgrawn, ffeithluniau, posteri digidol, penodau podlediad neu fideos byr. Dylai allbynnau sicrhau bod y mewnwelediadau a gynhyrchir yn hygyrch i gynulleidfaoedd amrywiol ac anacademaidd.

Cyn cyflwyno eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus:

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ein ffurflen ar-lein, y gellir ei chyrchu drwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 23 Ionawr 2026 am 4pm. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.