Yn bersonol

Anabledd yng Nghymru: Iaith, Addysg a Chyfathrebu

6 Awst, 2025:

1:00 pm -

6 Awst, 2025:

2:00 pm

Trefnwyd gan Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar y Gymdeithas Ddysgedig Cymru a gyda Phrifysgol Wrecsam. Pabell Prifysgol Wrecsam.  

Yr Athro Sara Elin Roberts FLSW, Ysgolhaig Annibynnol ac Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor 

Dr Emily Lowthian, Prifysgol Abertawe 

Marjorie Thomas, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Rebecca Day, Prifysgol Bangor 

Bydd y sesiwn yn trafod gwahanol agweddau ar anabledd yng Nghymru, gyda ffocws ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gydnabod yr heriau a wynebir gan blant a phobl gyda gwahanol anableddau, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y system addysg a’r byd cyfrwng Cymraeg. Mae’r tri siaradwr yn arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ymchwil gyda’r ddolen gyswllt eu bod yn gweithio ar agweddau o gyfathrebu a darparu cyfleoedd cyfartal i bawb ym myd addysg. 

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael yn y sesiwn yma.