Pleser oedd gefnogi Darlith Flynyddol Edward Lhuyd Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chafodd ei chyflwyno gan ein Cymrawd, Yr Athro Jane Aaron FLSW.
Lleoliad: Pontio, Prifysgol Bangor
Dyddiad: 7pm dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025.
Teitl y ddarlith: ‘Colli Gwyrddni: Ecofeirniadaeth a gwaith rhai o feirdd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg’
Crynodeb
Yn ogystal â dadansoddi llenyddiaeth sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd, mae nod gwleidyddol i ecofeirniadaeth, sef dyfnhau ein dealltwriaeth hanesyddol o achosion yr argyfwng amgylcheddol presennol a’n ymnerthu i wrthsefyll y rhai a fyn ei ddiystyru. Yn y ddarlith hon byddwn yn ystyried gwaith barddonol rhai o Gymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y trawsffurfiwyd eu bywydau gan y chwyldro diwydiannol, ac yn gofyn a oes neges i ni heddiw yn eu hymateb hwy i golli gwyrddni?
Bywgraffiad
Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron ac awdur Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith ym 1999, Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales a enillodd Wobr Roland Mathias yn 2009, y gyfrol Welsh Gothic (2013), a’r cofiant Cranogwen a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol Creadigol yn 2024.
Copi o’r ddarlith
Mae copi o’r ddarlith ar gael i’w darllen yma.