Beth yw barn ymgeiswyr gobeithiol Etholiadau’r Senedd am STEMM?
Mae sefydliadau STEMM ledled Cymru a’r DU yn uno i ofyn i gynrychiolwyr pleidiau sy’n ymgeisio yn Etholiadau’r Senedd 2026 am eu cynlluniau ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddyginiaeth.
Os ydych yn frwd o blaid STEMM, neu’n chwilfrydig i glywed mwy gan y bobl sy’n ymgeisio i gael eu hethol i’r Senedd yn 2026, cofrestrwch i ymuno â ni ar-lein ddydd Mawrth 14eg Ebrill 17:00-18:30. Caiff mynychwyr sydd wedi cofrestru gyfle i awgrymu cwestiwn!
Gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru, y Sefydliad Ffiseg, Cymdeithas Frenhinol Bioleg, Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Ymchwil Canser y DU, y Gymdeithas Ffisiolegol, Science Made Simple, y Sefydliad Codio yng Nghymru, y Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru, BCS y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, y Sefydliad Peirianwyr Strwythurol, Technocamps, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil, Campaign for Science and Engineering, Institution of Engineering and Technology, Academi’r Gwyddorau Mathemategol, Arolwg Daearegol Prydain, y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff a’r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Rhagor o fanylion i’w cadarnhau’n fuan.