Ar-lein ac yn bersonol

Menywod ar Baneli Grant: Digwyddiad Aelodaeth Panel

6 Hyd, 2025:

11:00 am -

2:00 pm

Ymunwch â CDdC ac EMPOWER ar 6 Hydref (11am-2pm), ar gyfer digwyddiad sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd amrywiaeth rhywedd mewn penderfyniadau ariannu ymchwil. Digwyddiad hybrid yw hwn, gyda phresenoldeb wyneb yn wyneb yn Sbarc|Spark, Prifysgol Caerdydd. Croeso i bawb ymuno.

Bydd yr EPSRC yn datgelu ei adroddiad diweddar sy’n dangos bod fod menywod yn cael gwell canlyniadau gan baneli grantiau sy’n cynnwys menywod. Dilynir hyn gan drafodaeth banel ryngddisgyblaethol yn trafod awgrymiadau gorau ar gyfer ymuno â phaneli grantiau. Mae Cinio Rhwydweithio ar gael i’r rhai sy’n mynychu wyneb yn wyneb.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan EMPOWER a’i gefnogi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae CDdC yn cynnig nifer gyfyngedig o fwrsariaethau teithio i aelodau Rhwydwaith YGC sy’n teithio o bellter pellach. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am fwrsariaeth, anfonwch e-bost atom i researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk gydag amcangyfrif o’ch costau teithio ac esboniad byr o sut y bydd mynychu’r digwyddiad hwn yn cefnogi datblygiad eich gyrfa.