Yn bersonol

Gwarth Gwastraff Ymchwil mewn Meddyginiaeth Glinigol

25 Chw, 2026:

6:45 pm -

25 Chw, 2026:

Rydym yn falch o gefnogi’r ddarlith hon gan Gymdeithas Wyddonol Caerdydd, drwy ein cynllun Cefnogi Digwyddiadau FLSW. Bydd y ddarlith yn cael ei chyflwyno gan Yr Athro Hywel Williams, Prifysgol Nottingham.

Crynodeb

‘Yn 2009, bu i Chalmers a Glasziou awgrymu bod hyd at 85% o ymchwil feddygol yn wastraffus. Cymaint ag yr hoffem feddwl o bosibl nad yw gwastraff ymchwil yn digwydd mewn dermatoleg, y gwir yw bod llawer o’n hymchwil glinigol yn cael ei gwneud heb unrhyw fath o flaenoriaethu sy’n cymryd ymchwil bresennol i ystyriaeth. Yn aml, mae’r astudiaethau wedi’u dylunio’n wael, ac mae llawer heb eu hadrodd o gwbl neu eu hadrodd mewn ffordd unochrog ac amhosibl i’w defnyddio. Yn y sgwrs hon, byddaf yn awgrymu rhai datrysiadau i’r broblem aflesol hon o wastraff ymchwil drwy dynnu sylw at beth o’n gwaith yn y Ganolfan Dermatoleg Seiliedig ar Dystiolaeth. Mae’r datrysiadau hyn yn cynnwys mapio tystiolaeth bresennol, blaenoriaethu cwestiynau ymchwil sy’n bwysig i gleifion drwy bartneriaethau gosod blaenoriaethau, hyrwyddo darpar gofrestriad o brotocolau ymchwil i atal twyllo, datblygu setiau o ganlyniadau craidd fel bod modd cymharu a chyfuno astudiaethau, gweithio â methodolegwyr i sicrhau dyluniad astudio cadarn, cyhoeddi 100% o ymchwil wedi’i chynllunio a sicrhau bod canlyniadau clinigol berthnasol yn cael eu rhannu’n effeithiol i gymuned o ddefnyddwyr ymchwil. Mae lleihau gwastraff ymchwil yn gyfrifoldeb ar bawb sy’n cynnwys clinigwyr, nyrsys, methodolegwyr a chleifion’

Cofrestrwch i fynychu:

Cofrestrwch i fynychu. Am wybodaeth ynghylch cofrestru…  

Y Rhaglen Lawn o Ddarlithoedd

Mae Cymdeithas Wyddonol Caerdydd yn cynnal darlithoedd drwy gydol y flwyddyn. I weld eu rhaglen lawn o ddarlithoedd, ewch i – Cymdeithas Wyddonol Caerdydd.  

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, cysylltwch â ni ar events@lsw.wales.ac.uk.