Anabledd yng Nghymru 2025
Tachwedd 25, 2025
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau Fforwm Arbenigwyr Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar y thema Anabledd yng Nghymru, Chwefror 2025. Daeth y fforwm â grŵp amrywiol o gyfranwyr ynghyd—gan gynnwys academyddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr y sector cymdeithasol a’r trydydd sector, a llunwyr polisi—roedd llawer hefyd yn rhannu profiadau o’u bywyd eu hunain. Gyda’i gilydd, aethant ati i archwilio’r rhwystrau sydd o flaen pobl anabl drwy gydol eu hoes yng Nghymru, a datblygu cyfres o argymhellion er mwyn helpu unigolion, llunwyr polisi ac ymchwilwyr i ddatgymalu’r rhwystrau hyn i bobl anabl.