Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod rôl hanfodol ymchwil ac arloesi wrth yrru twf economaidd hirdymor a chyflawni ei phum cenhadaeth genedlaethol1. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arloesedd wrth wraidd ei gweledigaeth i greu “Cymru gryfach, decach a gwyrddach”. Ochr yn ochr â hyn, mae uchelgais parhaus yn San Steffan a Chaerdydd i leihau anghydraddoldeb a chefnogi twf mewn dinasoedd a chenhedloedd ledled y DU.
Beth mae’r uchelgeisiau hyn i gynyddu buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd yn y DU yn ei olygu i Gymru? Mae’r ddogfen hon yn rhoi cipolwg ar y dirwedd ymchwil ac arloesi yng Nghymru er mwyn llywio trafodaethau ynghylch sut y gall pobl ar draws y genedl gyfrannu at a rhannu buddiannau Ymchwil a Datblygu yn y DU.