Yr Athro Melanie Jones
BSc, MSc, PhD, FLSW
Athro Economeg, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Jones yn economegydd empirig sy’n defnyddio dulliau meintiol i ddeall anghydraddoldeb yn y farchnad lafur yng Nghymru a’r DU, yn enwedig mewn perthynas â rhywedd ac anabledd. Mae hi’n cyhoeddi’r dystiolaeth hon mewn cyfnodolion rhyngwladol ac yn ei defnyddio i lywio polisi ac arferion cyflogwyr. Cydnabuwyd y cyfraniad hwn pan gafodd ei phenodi’n olygydd cyfnodolyn academaidd, ac yn aelod o banel asesu grantiau’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae hi’n frwd dros hyrwyddo economeg ac mae ganddi sawl rôl gynghori bwysig i gefnogi hyn.