Gymrodoriaeth er Anrhydedd: y proses ethol

Mae Cymrawd Er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn wahanol i’r categori Cymrodoriaeth ehangach.  Caiff Cymrodyr Er Anrhydedd eu hargymell gan Gymrodyr presennol a phan fyddant yn bodloni ein meini prawf, cânt eu gwahodd i dderbyn yr anrhydedd. 

Mae proses ethol Cymrawd Er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod unigolion sydd ag enw da’n rhyngwladol, proffil cyhoeddus uchel iawn, ac effaith ragorol yn eu maes. Mae Cymrodyr Er Anrhydedd yn cefnogi Cenhadaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn gweithredu fel llysgenhadon dros y Gymdeithas. Mae manylion y Gymrodoriaeth Er Anrhydedd i’w cael isod. 

Argymell Cymrodyr Er Anrhydedd: 

Gall unrhyw un o Gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru gyflwyno Llythyr Argymell ar gyfer Cymrodoriaeth Er Anrhydedd.  Mae’n rhaid i argymhelliad gael ei wneud yn gyfrinachol a NI ddylai enwebwyr roi gwybod i’r ymgeiswyr eu bod wedi’u hargymell – bydd staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cysylltu â nhw os cânt eu cynnwys yn yr etholiad.  

Mae croeso i chi lenwi eich ffurflen yn y Gymraeg a/neu Saesneg.  

Mae’r ffenestr i gyflwyno Llythyr Argymell ar agor o 1af Mai 2026 a bydd yn cau hanner nos ar 30ain Medi 2026. 

Pwy allai fod yn Gymrawd Er Anrhydedd?

Gall Cymrodyr Er Anrhydedd ddod o unrhyw genedl, cefndir (academaidd neu fel arall) neu faes arbenigedd, cyhyd â bod modd dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf.  Gall ymgeiswyr gynnwys y rhai na allent gael eu henwebu fel arfer dan reolau Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. 

Er bod y cysylltiad â Chymru yn bwysig i Gymrodoriaeth yn gyffredinol, mae’n ddymunol yn hytrach na hanfodol i Gymrodyr Er Anrhydedd.  Gallai fod yn rhywbeth bach ysgafn, sy’n dangos cydnawsedd â Chymru ac ymrwymiad personol i Gymru, yn ogystal â gwaith y Gymdeithas Ddysgedig 

Mae ein gwaith yn llewyrchu ar amrywiaeth ein Cymrodoriaeth ac rydym yn annog enwebiadau gan bobl o bob cefndir, profiadau, credoau a diwylliannau.  Wrth chwilio am rywun i’w enwebu – ystyriwch y rhwydweithiau traddodiadol yr ydych yn rhan ohonynt, ystyriwch ffyrdd o ehangu eich chwilio a chwiliwch yn weithredol am ymgeiswyr amrywiol.  Cewch enwebu ymgeisydd o unrhyw le – nid oes rhaid iddynt fod yn rhan o’ch rhwydwaith. 

Mae sawl agwedd ar amrywiaeth – gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i’r naw nodwedd warchodedig.  Mae hyn yn cynnwys oedran, hil, anabledd a rhywedd. 

Meini Prawf Cymrodoriaeth Er Anrhydedd:

Mae proses ethol Cymrawd Er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod y rhai sydd ag enw da’n rhyngwladol, proffil cyhoeddus uchel iawn, ac effaith ragorol yn eu maes. Byddant yn cefnogi Cenhadaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru a byddant yn barod i weithredu fel llysgennad dros y Gymdeithas.

Gall ymgeiswyr gynnwys y rhai na allent gael eu henwebu fel arfer dan reolau Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  Ni ddylai Cymrawd Er Anrhydedd gael gwrthdaro buddiannau hysbys ag uchelgeisiau a nodau strategol y Gymdeithas.

Gall Cymrodyr Er Anrhydedd ddod o unrhyw genedl, cefndir (academaidd neu fel arall) neu faes arbenigedd, cyhyd â bod modd dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Cyfraniad rhagorol ac effeithiol i gymdeithas a/neu ysgolheictod sy’n cael ei gydnabod ledled y byd.

Bydd gan Gymrodyr Er Anrhydedd enw da am gyflawniadau sydd o werth rhyngwladol, gan gynnwys gwaith elusennol a dyngarol.

  • Proffil cyhoeddus sy’n gadarnhaol iawn.

Bydd gan Gymrodyr Er Anrhydedd broffil cyhoeddus sylweddol a chadarnhaol y tu hwnt i’w maes arbenigedd.

  • Gyrfa a sefyllfa sy’n unol ag uchelgeisiau a nodau strategol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  

Bydd gwaith a gyrfa Cymrodyr Er Anrhydedd yn cefnogi ac yn cyd-fynd ag uchelgeisiau a nodau strategol y Gymdeithas. Rydym yn gobeithio y bydd ein Cymrodyr Er Anrhydedd yn fodlon ymrwymo eu hamser a’u dylanwad i helpu i lywio a datblygu blaenoriaethau’r Gymdeithas.

  • Yn barod i ymgysylltu â’r Gymdeithas ar lefel lysgenhadol.

Gall Cymrodyr Er Anrhydedd fod mewn sefyllfa i chwarae rhan mewn trafodaethau lefel uchel a gweithgareddau gosod agendâu ar ran y Gymdeithas.

  • Mae’n ddymunol, ond nid yn hanfodol, y gall Cymrodyr Er Anrhydedd ddangos ryw gysylltiad â Chymru, neu gydnawsedd â Chymru.

Byddem yn disgwyl i’n Cymrodyr Er Anrhydedd fod ag ymrwymiad personol i lesiant Cymru.

yn ôl i'r brig