Arsha Kaur
Arsha (Harshdeep) Kaur yw’r Swyddog Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, lle mae’n gweithio’n agos â’r Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr i gefnogi datblygiad ymchwilwyr a chymunedau ymchwil Cymru benbaladr.
Yn flaenorol, gweithiodd Arsha fel Swyddog Cymorth Datblygiad Cymunedol (Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant) yng Nghyngor Trydydd Sector Caerdydd, lle bu’n cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i ddylanwadu ar flaenoriaethau iechyd a llesiant lleol. Cyfrannodd ei gwaith at fentrau atal dan arweiniad y gymuned, yn cynnwys rhaglen Gwella’r Daith Canser (ICJ) Caerdydd a’r Ffair Iechyd Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd, ac yn ddiweddarach bu’n cefnogi sefydliadau sy’n seiliedig ar le drwy fentrau fel datblygiad Rhwydwaith Cyrff Angori Cymunedol Caerdydd, gan helpu i gryfhau llais y gymuned a chysylltiadau â pholisi, ymarfer, ac ymchwil.
Yn ei rolau blaenorol, cyfrannodd Arsha hefyd at ymchwil oedd yn canolbwyntio ar atal ar draws iechyd cyhoeddus a gwyddoniaeth gardiofasgwlaidd, gan gefnogi ymchwil dulliau cymysg ac ansoddol, gweithgareddau cyfranogiad cyhoeddus, a chyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr a chymunedau. Roedd ei chyfraniadau ymchwil yn cynnwys gwaith ar iechyd cardiofasgwlaidd a’r risg mewn menywod â Syndrom Ofarïau Polysystig (PCOS) gyda Chanolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant Cymru, yn ogystal ag ymgysylltu â chymunedau ymchwilwyr gyrfa gynnar ar lefel Ewropeaidd drwy Gymdeithas Ymchwil Atal Ewrop, lle mae hi hefyd yn gwasanaethu fel Prif Olygydd ar gyfer Fforwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac yn cynghori ar strategaethau ymgysylltu i gefnogi cyfranogiad a chynhwysiant Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
Yn wreiddiol o India, mae Arsha bellach yn galw Cymru’n gartref ac ymrwymodd i gryfhau cymunedau ymchwil cynhwysol ar hyd a lled Cymru. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n gwirfoddoli gyda Chartref Cŵn Caerdydd, gan roi o’i hamser i gefnogi achos sy’n agos at ei chalon.
Gallwch gysylltu âg Arsha yn akaur@lsw.wales.ac.uk.