Dr. Barbara Ibinarriaga Soltero
Fel Arweinydd y Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru, fi sy’n gyfrifol am ddylunio a darparu rhaglen brysur ac effeithiol sy’n cefnogi twf proffesiynol Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (Ygau) leded Cymru. Un o elfennau allweddol fy swydd yw gweithio gyda Grŵp Cynghori CDdC ar Ddatblygu Ymchwilwyr, i adeiladu ein rhwydwaith cenedlaethol a rhyngddisgyblaethol o YGGau, a thrwy’r rhwydwaith hwnnw rydym yn cynnig ystod eang o weithdai hyfforddi, digwyddiadau a chyfleoedd i rwydweithio. Nod y rhain oll yw gwella sgiliau’r ymchwilwyr a’u cefnogi wrth i’w gyrfaoedd ddatblygu.
Gyda chefnogaeth ein Swyddog Rhaglen, rydym yn ymdrechu hefyd i sefydlu partneriaethau strategol gyda rhwydweithiau a sefydliadau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r cydweithrediadau hyn yn ein galluogi i gynnig cyfleoedd arweinyddiaeth pwrpasol ar gyfer egin ymchwilwyr a’r rhai sydd ymhellach ar hyd eu taith yrfaol, gan helpu i adeiladu capasiti o fewn y gymuned ymchwil a meithrin diwylliant o ymgysylltu ar draws sawl sector.
Yn ogystal, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd gyda chydweithwyr yn y gymuned Datblygu Ymchwilwyr ehangach, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arferion gorau. Trwy’r trafodaethau hyn, gallwn fwydo ein hymdrechion i fod yn fwy cynhwysol, cefnogol a chreu amgylcheddau ymchwil iachach – gan sicrhau bod ein mentrau yn parhau’n berthnasol ac yn ymatebol er budd anghenion ymchwilwyr gyrfaol profiadol a’r rhai sy’n cychwyn arni.
Cyfrifoldeb allweddol arall yw rheoli Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil y Gymdeithas. Nod y fenter hon yw hyrwyddo’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth ddeallusol a chreadigol drwy gefnogi gweithdai cydweithredol sy’n tynnu ymchwilwyr ynghyd o wahanol ddisgyblaethau, sefydliadau a sectorau – gan gynnwys academia, y cyhoedd, y sector preifat a’r trydydd sector.
Wrth wraidd ein rhaglen gwelwn arbenigedd a phrofiad Cymrodyr y Gymdeithas. Mae eu cyfraniad yma yn cyfoethogi ein gweithgareddau ac yn gwella gallu’r ymchwilwyr i feithrin gyrfaoedd difyr ac sy’n gwneud gwahaniaeth, mewn academia a thu hwnt.
Ymunodd Barbara â’r Gymdeithas ym Mehefin 2021.
Fel gwyddonydd cymdeithasol, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, mae Barbara’n parhau i ddatblygu ei phroffil ymchwil drwy ymgynghori ar gyfer prosiectau ymchwil a chefnogi sefydliadau dielw i gael cyllid i weithio o fewn cymunedau brodorol Mecsico.
Mae Barbara’n angerddol am addysgu, ac mae hi’n hoff iawn o nofio a seiclo.