Dr. Barbara Ibinarriaga Soltero

Mae Barbara yn arwain ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, menter a ariennir gan CCAUC sy’n ceisio cyflawni un o Flaenoriaethau Strategol y Gymdeithas – i greu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr presennol a dyfodol Cymru. Mae Barbara hefyd yn rhedeg ein Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Barbara wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu cyrhaeddiad Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y Gymdeithas. Yn ogystal â bod yn brif bwynt cyswllt i aelodau’r Rhwydwaith, mae Barbara yn cynhyrchu’r Bwletin ECR misol ac yn rheoli trefnu seminarau, gweithdai a gweithgareddau eraill, gan roi cyfle i aelodau’r Rhwydwaith gysylltu â’n Cymrodyr a dysgu ganddynt.

Ymunodd Barbara â’r Gymdeithas ym Mehefin 2021.   

Fel gwyddonydd cymdeithasol, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, mae Barbara’n parhau i ddatblygu ei phroffil ymchwil drwy ymgynghori ar gyfer prosiectau ymchwil a chefnogi sefydliadau dielw i gael cyllid i weithio o fewn cymunedau brodorol Mecsico.    

Mae Barbara’n angerddol am addysgu, ac mae hi’n hoff iawn o nofio a seiclo.