Dr Haydeé Martínez-Zavala
Haydee yw Clerc y Cyngor, ac mae’n gyfrifol am ddarparu cyngor ar lywodraethu, materion cyfansoddiadol a gweithdrefnol, ac am sicrhau bod y corff llywodraethu yn gweithredu’n effeithiol ac yn gallu cyflawni ei holl ddyletswyddau statudol. Mae Haydee yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn esmwyth. Mae ei rôl yn cwmpasu datblygiad a gweithrediad gweithdrefnau busnes effeithiol, yn bennaf drwy gefnogi’r Cyngor ac amrywiol Bwyllgorau. Yn ogystal, mae’n cefnogi’r Clerc er mwyn rheoli gweithrediad gweithdrefnau a pholisïau. Mae’n gyrru effeithlonrwydd a gwelliant parhaus, gan sicrhau ein bod yn gallu gweithredu’n effeithiol a ffynnu fel sefydliad.
Ymunodd Haydeé â’r Gymdeithas ar ôl cwblhau ei PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Mae ei chefndir mewn Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol, ac mae ganddi brofiad rhyngwladol o weithio yn y sector Addysg Uwch, ar ôl gweithio yn y DU, Mecsico a’r Almaen.
Mae Haydeé yn angerddol iawn am yr amgylchedd, addysgu a cherddoriaeth. Mae hi’n mwynhau teithio ac archwilio safleoedd naturiol a hanesyddol. Ar hyn o bryd, mae hi’n dysgu Cymraeg fel ei thrydedd iaith