Olivia Harrison

Olivia yw Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol am redeg y Gymdeithas, rheoli tîm staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac am sicrhau bod y gymdeithas yn cyflawni cynllun strategol y gymdeithas drwy gydlynu gyda’r Cyngor ac adrodd i’r Cyngor.   

Ymunodd Olivia â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Chwefror 2022, yn dilyn ei rôl fel Pennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).   

Olivia yw Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol am redeg y Gymdeithas, rheoli tîm staff LSW ac mae’n sicrhau bod y gymdeithas yn cyflawni cynllun strategol y gymdeithas drwy gydlynu gyda’r Cyngor ac adrodd i’r Cyngor.   

Ymunodd Olivia â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Chwefror 2022, gan ddod o’i rôl fel Pennaeth Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).   

Hyfforddodd a gweithiodd Olivia yn wreiddiol fel peiriannydd strwythurol siartredig, cyn symud i bolisi addysg uwch yng Nghymru. Drwy ddechrau ym maes materion cyhoeddus ym Mhrifysgolion Cymru a symud i bolisi ymchwil, cafodd Olivia ei chydnabod yn gyflym fel arbenigwr ym maes polisi ymchwil ac arloesi ar lwyfan addysg uwch y DU. Yn ei swydd yn CCAUC, roedd hi’n goruchwylio dyrannu tua £100m o gyllid craidd i brifysgolion Cymru ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac arloesi. Hi hefyd sy’n arwain datblygu ‘Ymchwil ac Arloesi: Y Weledigaeth i Gymru’ CCAUC.   

Mae Olivia yn angerddol dros wella cynwysoldeb a hybu amrywiaeth, ac mae hi’n byw ar Ynys y Barri. Mae hi’n mwynhau mynd â’i chŵn am dro ar y traeth a nofio gyda chlwb nofio môr ‘Swim and Tonic’. Mae hi hefyd yn ddeifiwr sgwba brwd ac yn mwynhau archwilio riffiau ar draws y byd.