Yr Athro Amira Guirguis

Etholwyd: 2024

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Addysg, Fferylliaeth

Prif Wyddonydd Cymdeithas Fferyllol Frenhinol

Athro (Fferylliaeth), Cyfarwyddwr y Rhaglen MPharm a Ddirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol, Prifysgol Abertawe

Mae’r Athro Guirguis yn Bresgripsiynydd Fferyllol Annibynnol ac yn ymchwilydd a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn camddefnyddio sylweddau. Mae ei gwaith arloesol yn cynnwys sefydlu’r gwasanaeth gwirio cyffuriau cyntaf yn y DU a drwyddedwyd gan y Swyddfa Gartref mewn gwasanaethau cymunedol. Gyda thros 100 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid, gwnaeth gyfraniadau sylweddol i ymarfer fferylliaeth a lleihau’r niwed o ddefnyddio sylweddau. Fel aelod o Gyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau a thyst arbenigol yn y llys, mae’n chwarae rhan hanfodol mewn llunio polisi cyffuriau’r DU. Fel Prif Wyddonydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), mae ffocws ei rôl ar ddatblygu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil a gwyddoniaeth fferylliaeth a chodi ymwybyddiaeth o sut mae gwyddoniaeth ac ymchwil yn llywio’r datblygiad a’r defnydd o feddyginiaethau, gan ategu’r datblygiad parhaus o ymarfer fferylliaeth. Mae ei gwasanaeth ar y Pwyllgor Addasrwydd i Ymarfer a’r Panel Achredu ar gyfer y ddau reoleiddiwr fferylliaeth, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a Chymdeithas Fferyllol Iwerddon, yn adlewyrchu ymhellach ei hymrwymiad cryf i ddatblygu addysg ac ymchwil, safonau proffesiynol, ac iechyd cyhoeddus ar draws Cymru a’r DU.

 

yn ôl i'r brig