Yr Athro Clare Bryant

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Bioleg Ddynol - Imiwnedd Cynhenid

Athro Imiwnedd Cynhenid, Prifysgol Caergrawnt.

Cafodd yr Athro Bryant ei hyfforddi fel milfeddyg, ac mae hi’n aelod o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, er bod llawer o’i gwaith hefyd yn ymwneud â bioleg dynol. Mae hi’n arbenigo ym maes imiwnedd cynhenid, sef un o’r llinellau amddiffyn cyntaf yn erbyn antigenau, deunyddiau niweidiol sy’n dod i mewn i’r corff. Mae hyn wedi arwain at waith yn datblygu meddyginiaethau i drin alergeddau a chlefyd Alzheimer.