Dr Dawn Knight

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Ieithyddiaeth Gymhwysol

Darllenydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Caerdydd.

Ieithydd Cymhwysol yw Dr. Knight a chanddi arbenigedd ym maes Ieithyddiaeth Gorpws, Dadansoddi Disgwrs, ac Amlfoddolrwydd. Mae ei gwaith ymchwil wedi cyfrannu at ddatblygu fframweithiau ac ymagweddau methodolegol arloesol i adeiladu a dadansoddi corpora ieithyddol, yn enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg. Mae Dr Knight, sy’n aelod o’r Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu wedi cymryd rhan fel Prif Ymchwiliwr neu Gyd-ymchwiliwr mewn ystod o brosiectau ymchwil a gyllidir yn allanol, a chanddynt gyfanswm o tua £3.6m mewn cyllid allanol.