Yr Athro Helen Griffiths

Etholwyd: 2021

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Biofeddygaeth

Athro Emerita, Prifysgol Abertawe

Daeth Helen Griffiths yn Athro Emerita ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2026, ar ôl gwasanaethu’n flaenorol fel Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi o 2020.

Cafodd ei hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2021 ac yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol yn 2011.

Mae ei hymchwil i rôl rhywogaethau ocsigen adweithiol yn y maes heneiddio’n iach a chlefydau llid a dirywiol wedi cael ei gydnabod gyda gwobrau gan y Glenn Foundation 2014), Prifysgol Aston (2009) a Gwobr Catherine Pasquier am Ymchwil Radical Rhydd, SFRR Europe (2004).

Mae Helen yn arbennig o falch o fod wedi cefnogi dros 30 o fyfyrwyr ymchwil i gwblhau eu graddau uwch.

Mae hi wedi gweithio mewn swyddi academaidd ym Mhrifysgol Birmingham, Prifysgol Leicester, Prifysgol Aston a Phrifysgol Surrey, ac mae hi hefyd wedi gwasanaethu mewn rolau arweinyddiaeth uwch, gan gynnwys fel Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aston ac fel Deon Gweithredol y Gyfadran Iechyd a Gwyddorau Meddygol yn Surrey.

Mae Helen yn angerddol am greu amgylcheddau lle gall ymchwil ac ymchwilwyr ffynnu, ac am hyrwyddo cydweithio a sicrhau bod lleisiau’r gymuned yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Mae hi wedi gwasanaethu ar Is-banel 3 Uned Asesu REF2021 y DU, a bydd yn cyfrannu eto fel aelod o Is-banel 3 REF2029.

yn ôl i'r brig