Professor John Lloyd
Athro Emeritws mewn Fferylliaeth, Prifysgol Sunderland
Mae’r Athro Lloyd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Sunderland, lle bu’n Bennaeth Ysgol Fferylliaeth Sunderland. Cyn hynny, bu’n dal swyddi uwch yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Keele, a Choleg Meddygol Jefferson Philadelphia (UDA). Mae ei waith ymchwil ar ffarmacoleg gellol yn taflu goleuni ar achosion o gamffurfiadau cynhenid dynol ac ar seitopatholeg rhai afiechydon metabolig etifeddol. Mae ei astudiaethau ar ymdriniaeth gellol o bolymerau synthetig hydawdd wedi arwain y ffordd at y maes cynyddol o therapi cyffuriau wedi’i dargedu ar gyfer canser ac afiechydon dynol eraill. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf mae wedi cyhoeddi astudiaethau ar agweddau o seicoleg personoliaeth ac ar y rhyngwyneb gwyddoniaeth-crefydd.