Professor John Lloyd
Athro Emeritws mewn Fferylliaeth, Prifysgol Sunderland
Mae’r Athro Lloyd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Sunderland, lle bu’n Bennaeth Ysgol Fferylliaeth Sunderland. Cyn hynny, bu’n dal swyddi uwch yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Keele, a Choleg Meddygol Jefferson Philadelphia (UDA). Mae ei ymchwil i ffarmacoleg cellog wedi bwrw goleuni ar achosion camffurfiadau cynenedigol dynol a rhai clefydau metabolaidd etifeddol. Bu hyn o gymorth i fraenaru’r tir ar gyfer therapi cyffuriau targededig ar gyfer canser a chlefydau dynol eraill – maes sydd bellach yn datblygu’n gyflym.