Yr Athro Neil Thompson

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwaith Cymdeithasol

Awdur, addysgwr a chynghorydd annibynnol ac athro gwadd yn y Brifysgol Agored, Avenue Consulting Ltd.

Cydnabyddir arbenigedd yr Athro Thompson yn rhyngwladol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, cymdeithaseg, addysg ac angeueg. Mae wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at y disgyblaethau hyn drwy ei holl gyhoeddiadau helaeth ac amrywiol, sy’n rhychwantu’r byd academaidd a’r byd clinigol. O ganlyniad i hyn, mae ei waith wedi cael ei gyfieithu i amryw o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, Tyrceg, Pwyleg, Eidaleg, Sbaeneg,  Tsieineeg a Japaneeg.