Yr Athro Rachel Collis

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Anaesthesia Obstetreg

Anesthetydd ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae gwaith yr Athro Rachel Collis ar anaesthesia obstetryddol wedi gwella rheolaeth glinigol a safonau gofal menywod drwy’r byd. Mae rhan helaeth iawn o’i gwaith yn ymwneud â rhoi gofal uniongyrchol i gleifion, a’i gwaith ymchwil dilynol yn seiliedig ar brofiad clinigol cyfredol o leihau poen wrth eni.