Yr Athro Sheila Hunt

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Nyrsio

Athro Emeritws / Personol ac Arweinyddiaeth, Sheila Hunt Coaching.

Mae’r Athro Hunt yn ffigwr dylanwadol ym meysydd gofal iechyd clinigol ac academaidd yn y DU. Mae hi wedi chwarae rhan hollbwysig er mwyn datblygu clinigwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru, ac wedi annog a helpu academyddion nyrsio a bydwreigiaeth a chlinigwyr y GIG i  wneud cais am grantiau, dosbarthu ymchwil ac ysgrifennu papurau. Mae’r Athro Hunt yn aelod o Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae ei chyfraniadau i wella iechyd pobl Cymru, y GIG, ymchwil ac addysg wedi bod yn rhagorol.