Ar-lein

Gweminar YGC: Symud o Fod yn Ymwybodol o Ddatganoli i Fod yn Alluog o Ddatganoli

22 Ion, 2025:

10:00 am -

11:30 am


Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) a Chymdeithas Ymchwil Addysg yr Alban (SERA) yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio ar weminar a luniwyd ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb yn yr heriau a’r cyfleoedd o gynnal ymchwil ar draws cyd-destunau datganoledig y DU.

Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg fanwl o’r heriau a’r cyfleoedd unigryw sy’n codi o weithio gyda ‘r llywodraethau datganoledig a chynnig arweiniad ar sut all ymchwilwyr fanteisio i’r eithaf ar effaith eu gwaith ar draws tirweddau gwleidyddol amrywiol.

Nod y weminar yw meithrin deialog rhwng ymchwilwyr yng Nghymru a’r Alban, gan ddarparu cyfle i rannu dealltwriaethau gwerthfawr o’r ymarferoldebau o gynnal ymchwil mewn cyd-destunau datganoledig, yn ogystal â strategaethau ar gyfer meithrin cydweithrediad traws-genedlaethol a dylanwadu ar bolisi.

Siaradwyr Gwadd:

  • Catherine May, PolicyWISE, Prifysgol Agored
    Bydd Catherine yn tynnu ar ddealltwriaethau cymharol o ymchwil PolicyWISE er mwyn dangos sut all cyfathrebu seiliedig ar ymchwil, pan gaiff ei ymgorffori’n gynnar yn y broses bolisi, gryfhau ymgysylltiad cyhoeddus a chefnogi gwneud penderfyniadau a lywir gan dystiolaeth. Drwy enghreifftiau megis diwygiadau prisio alcohol yr Alban a pholisi rhoi organau Cymru ac wrth i etholiadau 2026 nesáu, mae’r amodau ar gyfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn fregus, ond nid ydynt yn anadferadwy. Mae dysgu cymharol yn cynnig yr un addewid i ymchwilwyr ag y mae i bolisi: gwell canlyniadau os ydym yn cymryd sylw o’r gwersi sydd o’n cwmpas ni. Bydd ymchwilwyr yn cael dealltwriaeth ymarferol o sut all dysgu drwy ddull polisi cymharol wella eglurder, perthnasedd, ac effaith eu prosesau cyfathrebu eu hunain mewn tirwedd wleidyddol sy’n symud ar gyflymder.

    Catherine yw Arweinydd Materion allanol a Chyfathrebu yn PolicyWISE, lle mae’n gweithio ar draws y DU ac Iwerddon i drosi ymchwil polisi cymharol yn ddealltwriaethau hygyrch ar gyfer llunwyr polisi, ymarferwyr, a’r cyhoedd. Mae hi’n arbenigo mewn prosesau cyfathrebu strategol, ymgysylltiad cyhoeddus, a rhoi tystiolaeth o effaith ymchwil ar draws cyd-destunau datganoledig. Mae Catherine wedi cynghori llywodraethau, rhoi tystiolaeth yn y Senedd a San Steffan, ac arwain prosiectau dylanwadol sy’n cwmpasu iechyd, polisi cymdeithasol, a chydraddoldeb. Mae ganddi MA (Econ) mewn Polisi Cymdeithasol a Datblygiad Cymdeithasol o Brifysgol Manceinion.

    Mae PolicyWISE yn fenter polisi cymharol, ymchwil a chyfnewid gwybodaeth unigryw gan y DU ac Iwerddon. Rydym yn dod â phobl ac ymchwil ynghyd er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau i faterion traws-genedlaethol sy’n wynebu llunwyr polisi. Wedi’i ddylunio gan y DU ac Iwerddon (gan weithio ar draws sail pedair gwlad unigryw y Brifysgol Agored), mae PolicyWISE yn cefnogi llunwyr polisi ac ymchwilwyr ar draws y cenhedloedd i ddatblygu perthnasoedd, parch a gwybodaeth a chaiff ei ariannu gan Dangoor Education. Cawsom ganmoliaeth uchel yn ddiweddar yn y categori ‘One to Watch’ yng ngwobrau 2025 Smart Thinking.

  • Marie McQuade, Ysgol Addysg, Prifysgol Glasgow
    Marie yw Pennaeth Polisi Addysg a Grŵp Ymchwil Arweinyddiaeth ac Addysgu yn Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow ar hyn o bryd, ac mae’n Arweinydd Rhaglen ar gyfer y cwrs BA Ymarfer Plentyndod. Mae hi’n addysgu a goruchwylio ar draws ystod o gyrsiau addysg uwch gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth addysgol, datblygu polisi ac Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC). Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth addysg a gofal plant, datblygu polisi a dysgu proffesiynol.

    Bydd Marie yn rhannu ei phrofiad o ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban drwy ei hymchwil PhD cyfredol, sy’n canolbwyntio ar ddylunio, datblygu a mynegi polisi cymdeithasol yng nghyd-destun addysg a gofal y tu allan i’r ysgol.

  • Dr Gareth Evans, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe
    Mae Gareth yn Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith HRC ym Mhrifysgol Abertawe lle mae’n cydlynu modiwlau ar gyfraith datganoli yng Nghymru, systemau cyfreithiol, a datganoli mewn persbectif cymharol. Mae ei ddiddordebau ymchwil ym meysydd cyfraith gyhoeddus a hanes gwleidyddol, gyda ffocws penodol ar y setliad datganoli yng Nghymru. Mae’n dal swyddi allanol fel aelod o Bwyllgor Addysg Gyfreithiol Cymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol a Grŵp Ymgynghorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.

    Bydd Gareth yn rhannu ei brofiad o ymchwilio i’r setliad datganoli yng Nghymru ac ymgysylltu â gwleidyddion ac ymchwilwyr y Senedd. Bydd yn myfyrio ar sut mae ymgysylltu â llunwyr polisi wedi llywio ei arfer ymchwil ei hun a’i ddull o ledaenu ymchwil.

Cadeirydd:

  • Dr Fiona Dakin, Pennaeth Polisi Cyhoeddus, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
    Fiona yw’r Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hi’n gyfrifol am arwain ar gwaith ar ddarparu cyngor ar bolisïau a materion cyhoeddus. Ymunodd Fiona â’r Gymdeithas yn 2023 o Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), lle bu’n gyfrifol am ymgysylltu allanol, yn enwedig gyda llunwyr polisi cenedlaethol, rhanbarthol a dinesig.

    Mae Fiona yn arwain gwaith y Gymdeithas fel rhan o Gynghrair yr Academïau Celtaidd (CAA). Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn dod ag academïau cenedlaethol Cymru, Yr Alban ac Iwerddon ynghyd i annog a hyrwyddo ymhellach cydweithio, cydweithrediad a dysgu a rennir ar draws y tair system academaidd ac ymchwil