Cynghrair yr Academïau Celtaidd
The Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn dod ag academïau cenedlaethol Cymru, Yr Alban ac Iwerddon ynghyd i annog a hyrwyddo ymhellach cydweithio, cydweithrediad a dysgu a rennir ar draws y tair system academaidd ac ymchwil.
Mae Cymru, Yr Alban ac Iwerddon wedi’u trwytho yn nhraddodiad addysgu a dysgu. Mae diwylliant addysgiadol a rennir yn parhau i fod yn elfen gref o’r berthynas, ac mae cydweithrediad dwyreiniol-orllewinol yn nodwedd amlwg o systemau academaidd ac ymchwil Cymru, Yr Alban ac Iwerddon.
Rydym yn credu bod cydweithrediad rhwng yr Academi Wyddelig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol Caeredin a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn gallu meithrin cydweithrediad gwell ar ein diddordebau ar y cyd, ac rydym yn bwriadu gweithio ar nifer o nodau cyffredin.
Amcanion y Gynghrair yw:
- darparu cyngor annibynnol ac arbenigol ar addysg uwch a materion ymchwil ac ar faterion allweddol cyffredin eraill;
- cefnogi’r datblygiad o lywodraeth fwy effeithiol o fewn y DU a rhwng y DU ac Iwerddon, yn enwedig yn y cyd-destun ar ôl Brexit.
- gweithio i sicrhau bod Llywodraeth y DU a’i chyrff yn cymryd i ystyriaeth anghenion ac amgylchiadau gwahanol y cenedlaethau datganoledig, yn cefnogi cyfathrebiad a chydweithrediad rhwng gwahanol lefelau o’r llywodraeth.
Mae’r Gynghrair wedi ysgrifennu cyflwyniadau ac ymatebion i fentrau ac ymgynghoriadau, ac wedi cynnal trafodaethau bord gron ar ymchwil a datblygiad yn y cenhedloedd datganoledig. Mae’r Gynghrair hefyd yn cynnal digwyddiadau ar y cyd, yn cynnwys arddangosfa o ymchwil y cenhedloedd Celtaidd, a chynhadledd ar ddiwylliant ymchwil ac arloesedd.
Y newyddion diweddaraf gan Gynghrair yr Academïau Celtaidd: