Ar-lein

Hyfforddiant Cyflwyniad i Cyd-gynhyrchu

22 Hyd, 2025:

10:00 am -

12:00 pm

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n gwahodd ymchwilwyr o bob cwr o Gymru, sy’n gweithio oddi mewn i’r byd academaidd a thu hwnt iddo, i fynychu sesiwn hyfforddi 2 awr ar gyd-gynhyrchu, a gyflenwir gan Lab Cyd-gynhyrchu Cymru.

Rydym yn annog ceisiadau gan ymchwilwyr, yn enwedig y rheiny sydd wrthi’n ymgeisio i Gynllun Grant Gweithdy Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Gallwch ddarllen rhagor am y Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil, a sut i ymgeisio, yma.

Trosolwg o’r Hyfforddiant

Nod y sesiwn hwn yw meithrin iaith a dealltwriaeth gyffredin yng nghyswllt cyd-gynhyrchu, a chael cyfranogwyr i ddechrau meddwl am ba mor berthnasol yw cyd-gynhyrchu yn eu cyd-destunau nhw, a sut y gellir ei roi ar waith o safbwynt ymarferol. Byddwn yn egluro beth yw cyd-gynhyrchu, a’r hyn nad ydyw, ynghyd â lle mae’n ffitio o fewn sbectrwm ehangach ymagweddau o ran ymgysylltu â chyfranogiad, a phryd a lle i’w ddefnyddio i ychwanegu gwerth at eich gwaith. Byddwn yn cynnig fframweithiau cysyniadol, a gaiff eu hegluro drwy enghreifftiau o ymarfer. Bydd y sesiwn yn gymysgedd o gyflwyniadau, trafodaethau mewn grwpiau ar wahân ac fel un grŵp llawn, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb.

Gwybodaeth am Gofrestru a’r Polisi Canslo

Mae angen ffi gofrestru o £10, na ellir ei had-dalu, i sicrhau eich lle yn y digwyddiad hyfforddiant hwn. Caiff gweddill y ffi gofrestru (£70) ei sybsideiddio gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os nad ydych yn gallu mynychu’r hyfforddiant mwyach, fel y gallwn roi eich lle i ymchwilydd arall.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, gweler ein tudalen Archebu.