Grantiau Gweithdai Ymchwil 2026 - 2027 (Ar Gau)

Dyddiadau Pwysig

9 Medi 2026

Galwad yn Agor

14 Hydref 2026

Galwad yn Cau am 4pm

Erbyn 1 Rhagfyr 2026

Canlyniad

1 Ionawr 2027

Cychwyn y Prosiectau

19 Mawrth 2027

Adroddiad Interim

31 Awst 2027

Adroddiad Terfynol

Ein nod ydy ariannu gweithdai sy’n hyrwyddo cydweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sectorau a sefydliadau, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol. Yn yr rownd hon, byddwn yn gallu ariannu hyd at 22 o brosiectau ar gyfer sefydliadau yng Nghymru. Bydd gan y rownd hon o geisiadau bedair ffrwd y gall ymchwilwyr wneud cais amdanynt.

  • Astudiaethau Cymru
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
  • Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybrau at Heddwch (noddir gan Academi Heddwch Cymru)

Mae hyd at £1000 ar gael ar gyfer pob prosiect. Gall gweithdai o dan ffrwd Llwybrau at Heddwch, sy’n cynnwys partner rhyngwladol, wneud cais am hyd at £2000.

Cyn cyflwyno’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y dogfennau canllaw canlynol yn ofalus:

Noder: Mae ceisiadau ar gyfer Grantiau Gweithdai Ymchwil 2026-27 bellach wedi cau.