Yr Athro Breno Freitas o Universidade Federal do Ceará, Brasil, yn rhoi darlith ryngwladol ar gyfer Cymdeithas Wyddonol Caerdydd, gyda nawdd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Adran Cymdeithas Gemeg Frenhinol De Ddwyrain Cymru.
Mae Coedwig Law’r Amason yn hafan o fioamrywiaeth pryfed heb ei hail, ac yn gartref i amcangyfrif o 2.5 miliwn o rywogaethau, gyda llawer ohonynt yn dal heb gael eu darganfod.
Mae’r ecosystem fawr hon yn cefnogi llu anhygel o bryfetach, yn amrywio o forgrug heidiol sy’n adnabyddus am eu heidiau enfawr a’u hymddygiad rheibus, i’r gwenyn fwltur, sy’n bwydo ar gnawd sy’n pydru yn hytrach na phaill.
Rhwng y ddwy rywogaeth cwbl wahanol yma, mae nifer ddi-rif o rywogaethau eraill o bryfetach, pob un yn ennill ei le ac yn chwarae rhannau hanfodol yn y broses o beillio, dadelfennu a gweoedd bwyd, o lawr y goedwig i’r canopi, sy’n cynnal ecosystem y goedwig gyfan.
Mae bygythiadau i fioamrywiaeth pryfetach yn yr Amason yn cynnwys dinistrio cynefinoedd oherwydd datgoedwigo, newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar batrymau tymheredd a gwlybaniaeth, cynnydd mewn tanau mewn coedwigoedd a difwyniant amgylcheddol o ganlyniad i gloddio anghyfreithlon. Mae ymdrechion cadwraeth yn hanfodol i ddiogelu’r fioamrywiaeth gyfoethog hon o bryfetach, nid yn unig ar gyfer ecosystem yr Amason, ond hefyd ar gyfer sefydlogrwydd ecosystem a bioamrywiaeth fyd-eang.