Y Bwlch Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru

Dengys data HEFCW yn ystod blynyddoedd 2000-2001 i 2008-2009 (blynyddoedd gwario mawr yn y sectorau cyhoeddus eraill yng Nghymru), gydag un eithriad bach, mai polisi Llywodraeth Cymru fu tangyllido Prifysgolion Cymru, o’u cymharu â’r rheini yn Lloegr a’r Alban. Cred Cymdeithas Ddysgedig Cymru fod rhaid tynnu sylw at y Bwlch Cyllido hwn, gyda golwg ar berswadio’r Llywodraeth, yn gyntaf, i gydnabod bod Prifysgolion Cymru yn cael eu tangyllido, ac yn ail i unioni’r sefyllfa drwy ddarparu adnoddau ar lefel briodol. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2011, drwy ei Llywydd, Syr John Cadogan a chyda cefnogaeth ei Chyngor, bu’r Gymdeithas felly yn gohebu â’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, am gyllid ein Prifysgolion.

Ceir copïau o’r llythyrau canlynol yn y papur atodedig, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ar 18 Hydref 2011:

  •  Syr John Cadogan i Leighton Andrews AC, 16 Mawrth 2011
  • Leighton Andrews AC i Syr John Cadogan, 14 Mehefin 2011
  • Syr John Cadogan i Leighton Andrews AC, 8 Gorffennaf 2011
  • Leighton Andrews AC i Syr John Cadogan, 25 Awst 2011
  • Syr John Cadogan i Leighton Andrews AC, 12 Hydref 2011

Hefyd atgynhyrchir copi o’r papur ar y Bwlch Cyllido, Sylwadau Cyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i Brifysgolion yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ar 1 Mawrth 2011. Mae’r papur yn gorffen:

Bydd parhau i wanhau prifysgolion Cymru ar ôl degawd o gefnogaeth dila gan Lywodraeth y Cynulliad yn eu gwneud yn llai atyniadol i fyfyrwyr a fydd yn arwain at golli incwm. Bydd hefyd yn eu gwneud yn llai deniadol i staff a fydd yn arwain at golli rhagoriaeth ac yn ei dro yn golygu eu bod yn llai deniadol i gyrff cyllido allanol sydd â diddordeb mewn rhagoriaeth yn unig. Bydd hyn i gyd yn arwain at erydu ein sail gwybodaeth Genedlaethol ymhellach ac felly bydd popeth yn parhau i droelli i lawr, sy’n gwneud dim i gynorthwyo’r gred fod Cymru am fod yn Genedl fach ond glyfar.

Drafftiwyd llythyrau’r Llywydd mewn ymgynghoriad ag aelodau o Gyngor y Gymdeithas, ac yn ystod ei gyfarfod ar 12 Hydref 2011, penderfynodd y Cyngor yn unfrydol y dylid cyhoeddi’r ohebiaeth lawn, ar wefan y Gymdeithas a thrwy gyfryngau eraill.

Ceir copi o’r papur yma