Christopher Hann

Etholwyd: 2020

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, Humanities, Arts & Social Sciences

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Anthropoleg

Cyn gyfarwyddwr, Sefydliad Anthropoleg Gymdeithasol Max Planck

Yn enedigol o Gaerdydd, cafodd yr Athro Hann ei fagu yn nhref newydd Cwmbrân a’i addysgu yn Rhydychen (BA) a Chaergrawnt (PhD). Mae’n anthropolegydd cymdeithasol gyda phrofiad maes helaeth yn Hwngari, Gwlad Pwyl, Twrci, a Tsieina (Xinjiang). O ran thema, mae ei brif ddiddordebau’n cynnwys datblygiad economaidd, ethnigrwydd a chenedlaetholdeb, dadansoddiad gwareiddiadol, a sylfeini cymdeithasol a moesol cymdeithasau sosialaidd ac ôl-sosialaidd. Rhwng 1999 a’i ymddeoliad yn 2021, bu’n Gyfarwyddwr Sefydliad Anthropoleg Gymdeithasol Max Planck (Halle/Saale). Mae’n aelod cyffredin o Academi Wyddorau Berlin-Brandenburg, ac yn Gymrawd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol a ddyfarnodd y fedal Huxley, ei anrhydedd uchaf, iddo ym 2019.

yn ôl i'r brig