Ceisiadau yn Agor
Ceisiadau yn Cau am 5pm
Cyhoeddiad Canlyniad
Dyddiad Gorffen ar gyfer Prosiectau
Adroddiadau Terfynol
Cyllidwyr: Llywodraeth Cymru
Mwyafswm gwerth y grant: £2,000
Ceisiadau yn agor: 9 Medi 2026
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Hydref 2026, 5pm
Cyhoeddiad canlyniad: Diwedd mis Chwefror 2027
Mae Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon (YGC) yn grant teithio a ddyfernir i ymchwilwyr gyrfa cynnar rhagorol sy’n gweithio ym maes y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, neu’r gwyddorau. Ei bwrpas yw cefnogi teithiau ymchwil byr dramor i helpu ymchwilwyr i gynnal ymchwil sylfaenol, meithrin cydweithrediadau a rhwydweithiau newydd, cael mynediad at offer neu hyfforddiant sydd ar gael yn Iwerddon, a datblygu partneriaethau sy’n cefnogi ceisiadau cystadleuol Horizon Europe neu geisiadau cydweithredol rhyngwladol mawr eraill.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, mae’r cynllun yn ategu llinyn Iwerddon-Cymru presennol cynllun Grantiau Charlemont a weinyddir gan yr Academi Ríoga Wyddelig.
Beth y gall y grant ei gefnogi?
Gall ymchwilwyr wneud cais am hyd at £2,000 i gefnogi ymweliad byr ag Iwerddon, o rhwng wythnos a chwe wythnos, gyda nod ymchwil clir a chanlyniad gweladwy erbyn diwedd y gwaith a ariennir. Anogir ymgeiswyr i amlinellu sut y bydd yr ymweliad yn cryfhau partneriaethau ac yn cyfrannu at geisiadau cydweithredol rhyngwladol yn y dyfodol.
Mae cyllid ar gael ar gyfer ymchwil o dan y meysydd polisi a amlinellir yn Natganiad a Rennir Iwerddon-Cymru 2030: Ymgysylltiad Gwleidyddol a Swyddogol; Hinsawdd, Ynni, Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Economi a Masnach; Addysg, Ymchwil ac Arloesi; Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a Chymunedau, Alltudion a Chwaraeon.
Pwy all wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr:
Sylwer: nid yw myfyrwyr PhD yn gymwys ar gyfer y cynllun grant hwn.
Beth rydym yn chwilio amdano
Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen y dogfennau Galwad canlynol:
Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ein ffurflen ar-lein, y gellir cael mynediad ati drwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 17 Hydref 2026 am 5pm. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.