Professor John Lloyd
Athro Emeritws mewn Fferylliaeth, Prifysgol Sunderland
Mae’r Athro Emeritws John B. Lloyd wedi marw yn fuan ar ôl cael ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd hyn yn eironig iawn, gan ei fod yn edrych ymlaen at wneud cyfraniadau sylweddol i’r Gymdeithas. Yn wir, roedd gyrfa John yn nodedig am ei fod yn ‘chwaraewr tîm’ go iawn, yn ei ymchwil ac yn ei gyfraniadau academaidd i addysgu ac i gymdeithasau dysgedig.
Graddiodd o Brifysgol Manceinion gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1958, ac aeth ymlaen i ennill cymwysterau MSc, PhD a DSc o’r sefydliad hwnnw. Ar ôl ennill ei PhD, cafodd ei benodi’n Gynorthwyydd Ymchwil (1961), ac yna’n Ddarlithydd Cynorthwyol, Darlithydd ac Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd. Tra roedd yng Nghaerdydd, sylweddolodd John mai’r hyn oedd bwysicaf iddo oedd ei waith ymchwil a’i ymgysylltiad â myfyrwyr. Yn fwyfwy, roedd ei gydweithrediadau â chydweithwyr yn hynod ysbrydoledig, yn enwedig gyda’r rhai oedd yn gweithio mewn meysydd cysylltiedig y tu hwnt i’w faes arbenigedd uniongyrchol. Rhoddodd y cyfle annisgwyl i’w benodi’n Athro Sylfaen Biocemeg ym Mhrifysgol Keele her newydd iddo – sef cryfhau a datblygu addysgu ac ymchwil yno, yn ogystal â chychwyn prosiectau newydd gyda chydweithwyr meddygol. Roedd y rhain yn gwneud defnydd o gryfderau John ac yn cyd-fynd â’i ddewisiadau personol. Treuliodd John ugain mlynedd yn Keele, a nododd aelodau eraill o staff ei fod yn “gydweithiwr hynod frwdfrydig, cymwynasgar a gweithgar iawn”.
Yn dilyn cyfarfod gyda’r Athro Jindrich Kopecek ym 1978, a newid cyfeiriad ei ymchwil tuag at gyfuniadau cyffur-polymer y gellir eu targedu at gelloedd, cafodd gyfle i fynd i’r Unol Daleithiau i weithio fel Athro Pediatreg a Ffarmacoleg yng Ngholeg Meddygol Jefferson, Philadelphia (1989-98). Roedd cefndir gwyddonol John yn allweddol i lwyddiant prosiect amlddisgyblaethol ar y cyd i ddatblygu cyffuriau gwrth-ganser newydd yn Jefferson, ac arweiniodd at fwy nag 20 o erthyglau yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw, sy’n cael eu dyfynnu’n eang. Ar ôl ei waith yn yr Unol Daleithiau, dychwelodd John i’r DU i ymgymryd â her newydd fel Athro Fferylliaeth (Prifysgol Sunderland) ac fel Pennaeth Ysgol Fferylliaeth Sunderland. Yn ddiweddarach, daeth yn Athro Emeritws yno.
Mae tri phrif faes i ymchwil John Lloyd: endosytosis a swyddogaeth y lysosomau, etioleg faethol camffurfiadau cynhenid, a chyfuniadau cyffur-polymer y gellir eu targedu at gelloedd (fel y nodir uchod). Mae ei brif gyhoeddiadau’n cynnwys cyfnodolion o’r safon uchaf, ac mae llawer o’i bapurau wedi cael eu dyfynnu dros gant o weithiau. Mae’r gyfres bedair cyfrol a olygwyd ar y cyd ganddo (The Cell in Medical Science) yn waith arloesol yn ei faes. Ar ben hynny, er mai prif ffocws ei ymchwil oedd ar agweddau ar glefydau dynol, roedd yn arloeswr ym maes biocemeg lysosomau yn fuan ar ôl i’r organelau hyn gael eu darganfod.
Fel y gellid disgwyl gan unigolyn sydd mor barod i gydweithio ac mor gymwynasgar, fe wnaeth John gyfraniad sylweddol i gymdeithasau dysgedig, fel y Gymdeithas Biocemegol a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, y Sefydliad Bioleg a Chymdeithas Fferyllol Prydain Fawr.
Ar ôl i John ‘ymddeol’, bu’n parhau i fod yn brysur, gan droi ei sylw at seicoleg personoliaeth a’r rhyngwyneb rhwng gwyddoniaeth a chred grefyddol, a chyhoeddodd nifer o gyhoeddiadau pwysig. Roedd hyn yn cysylltu â’i rôl fel Gweinidog Lleyg yn Esgobaeth Trefynwy, ac fel aelod o Gorff Llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru.
Mae John yn cael ei oroesi gan ei wraig, Anne Myfanwy, a’u tri mab. Mae’n cael ei gofio gan bawb a wnaeth ei gyfarfod ac a wnaeth ryngweithio ag ef fel ‘gŵr bonheddig’ go iawn, a gyfrannodd yn gadarnhaol at bopeth a wnaeth.
Paratowyd gan John Harwood, Athro Emeritws, Prifysgol Caerdydd