Yr Athro Yvonne Wren

Etholwyd: 2026

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Gwyddoniaeth lleferydd a chyfathrebu

Athro Therapi Iaith a Lleferydd, Phrifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae ymchwil yr Athro Wren wedi arwain at adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn gynharach ac yn fwy cywir. Mae hyn yn helpu gweithwyr proffesiynol i ymyrryd yn fwy effeithiol, a hynny ar adegau tyngedfennol yn natblygiad plant. Mae hi wedi cyfrannu at ddatblygu a gwerthuso offer sgrinio, wedi dylanwadu ar ganllawiau clinigol cenedlaethol ac wedi cefnogi dulliau dwyieithog a diwylliannol briodol o asesu a chynnig therapi. Drwy ei phrosiectau ar y cyd â’r GIG a’r sectorau addysg, mae ei gwaith wedi gwella dyluniad, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaethau i blant a theuluoedd.

 

yn ôl i'r brig