Ar-lein

Seremoni Wobrwyo CDdC 2026

5 Tac, 2026:

6:20 pm -

8:00 pm

Ar ran Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, mae’n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â ni yn ein Seremoni Wobrwyo eleni, a gynhelir ddydd Iau y 5ed o Dachwedd. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio ar lein rhwng 18:20-20:00.

Dyma flwyddyn gyntaf ein Gwobrau a’n Medalau newydd ac rydym yn edrych ymlaen at gael cwmni siaradwyr a chyflwynwyr nodedig i ddathlu ein henillwyr ac effaith eu hymchwil a’u harloesedd yng Nghymru. Hoffem ddiolch i Paul Rock AS am noddi ein presenoldeb yn y Senedd.

Ni yw Academi Genedlaethol Cymru ar gyfer y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Llais dros Gymru ydym ni – sy’n cyflwyno tystiolaeth a gwyddoniaeth i wneuthurwyr penderfyniadau trwy arbenigedd amlddisgyblaethol ein Cymrodoriaeth. Mae ein Medalau a’n Gwobrau yn dathlu effaith ymchwil ac arloesedd ar Gymru, gan wobrwyo rhagoriaeth tîm ac unigolion ac arddangos y gorau o Gymru.

Rhodd ddewisol: Ar ddechrau’r ffurflen archebu, bydd gennych chi’r cyfle i wneud rhodd ddewisol tuag at waith y Gymdeithas. Gallwch newid y swm a awgrymir trwy glicio ar y blwch a nodi ffigur gwahanol. Mae rhoddion o bob maint yn ein helpu tuag at ein nod elusennol.

Ymholiadau: Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad neu gydag archebu, cysylltwch â ni drwy e-bostio events@lsw.wales.ac.uk os gwelwch yn dda.

Os ydych yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig ac eisiau mynychu’r digwyddiad mewn person, cysylltwch â ni ar events@lsw.wales.ac.uk.