Yr Athro Alan Shore

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Peirianneg, Peirianneg – electronig

Athro mewn Electroneg, Prifysgol Bangor

Cafodd K Alan Shore ei fagu yn Nhredegar Newydd, Cwm Rhymni. Graddiodd o Goleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen gyda BA mewn mathemateg. Gyda nawdd Labordai Ymchwil Telecom Prydeinig (BTRL) astudiodd am PhD yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd (fel yr oedd ar y pryd). Testun ei PhD oedd y laser lled-ddargludol a thrwy hynny dechreuodd ar 45 mlynedd o waith ymchwil ym maes Ffotoneg. Ar ôl swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Lerpwl a Chaerfaddon fe’i penodwyd i’w swydd bresennol yn Athro Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor ym 1995. Ym Mangor bu’n bennaeth yr Ysgol Gwybodeg a hefyd y Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymwysedig. Bu’n ddeiliad nifer o benodiadau ymchwil yn Awstralia, Denmarc, Sbaen, Japan, yr Iseldiroedd a’r Unol Daleithiau ac mae wedi cydweithio’n gynhyrchiol ar ymchwil yn yr Ariannin, yr India a Tsieina yn ogystal â nifer o wledydd yn Ewrop.

Yn 1987 cyd-sylfaenodd gynhadledd ryngwladol ar Led-ddargludyddion ac Optoelectroneg Integredig a gynhelir yn flynyddol yng Nghaerdydd a bu’n Drefnydd arni ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Rhaglen tan 2012. Mae i’r gynhadledd yr acronym Cymraeg bwriadol ‘SIOE’. Bu yn aelod o bwyllgor rhaglen sawl cynhadledd yr OSA ac yn gyd-drefnydd Symposiwm Rank Prize a gynhaliwyd yn Ardal y Llynnoedd ym mis Awst 2002 ar Ddynameg Anllinellol Laserau. Yn 2009 roedd yn gadeirydd y gynhadledd IEEE/SPIE ar Addysg a Hyfforddiant mewn Opteg a Ffotoneg (ETOP) yn Technium OpTIC Llanelwy.

Rhwng 2001 a 2008 ef oedd Cyfarwyddwr Optoelectroneg Ddiwydiannol a Masnachol (ICON), Canolfan Ragoriaeth Awdurdod Datblygu Cymru. Bu’n Cadeirio Fforwm Optoelectroneg Cymru rhwng 2006 and 2008 ac mae wedi cadeirio Academi Ffotoneg Cymru ers ei sefydlu yn 2005. Rhwng 2008 a 2011 bu’n cadeirio Comisiwn Electroneg Cwantwm yr Undeb Ffiseg Bur a Chymwysedig Ryngwladol. Yn 2015 arweiniodd weithgareddau yng Nghymru ar gyfer Blwyddyn Ryngwladol Golau dan nawdd y Cenhedloedd Unedig. Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Optegol America, a’r Sefydliad Ffiseg.

yn ôl i'r brig