Ms Alice Gray

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cyfathrebu Gwyddoniaeth

Uwch Swyddog Cyfathrebu a Chyflwynydd/Awdur Gwyddoniaeth Llawrydd, Prifysgol Caerdydd.

Mae Alice Gray yn Uwch Swyddog Cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Gyflwynydd Gwyddoniaeth Llawrydd i’r BBC. Yn ei gwaith mae hi’n canolbwyntio ar gyfathrebu, datblygu polisi ac eiriolaeth ym myd gwyddoniaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynhwysiant mewn gwyddoniaeth a chyfathrebu gwyddoniaeth, ac mae ganddi brofiad helaeth o reoli gwyliau a digwyddiadau ymgysylltu gwyddoniaeth yng Nghymru. Mae hi hefyd yn fedrus wrth greu cynnyrch i’r cyfryngau i arddangos gwyddoniaeth yng Nghymru, gan gynnwys rhaglenni radio, podlediadau, segmentau ar newyddion y teledu a rhaglenni dogfen.