Professor Andrew Pelter

Etholwyd: 2012

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cemeg - Organig

Bu farw Andrew Pelter, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, ar 16 Mawrth, 2019 yn 87 oed. Fe’i ganwyd yn Llundain ar 20 Tachwedd 1931 ac astudiodd Gemeg ym Mhrifysgol Bryste, lle cafodd ei radd PhD hefyd. Yna ymunodd â grŵp J. W. Cornforth (a aeth yn ei flaen i dderbyn Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 1975 ac a ddyrchafwyd yn farchog yn 1977) yn y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac roedd y cydweithio hwn yn ddylanwad pwysig ar ddatblygiad proffesiynol Andrew. Dechreuodd ei yrfa academaidd annibynnol ym Mhrifysgol Manceinion, lle bu’n cydweithio i ddechrau gyda chemegydd mawr arall o Awstralia, A. J. Birch, gan barhau i weithio gyda Cornforth yr un pryd. Fe’i dyrchafwyd yn fuan iawn yn uwch-ddarlithydd a sefydlodd y llinellau ymchwil annibynnol a fyddai’n flaenllaw am weddill ei yrfa – astudio heterogylchoedd ocsigen a chynhyrchion naturiol a chymhwyso adweithyddion boron at synthesis organig.

Ymhlith cyfraniadau niferus Andrew i gemeg heterogylchoedd ocsigen yn ystod ei gyfnod ym Manceinion, gwnaeth ddatblygiadau sylweddol o ran cymhwyso technegau ffisegol, sbectrosgopig megis sbectrometreg cyseiniant magnetig wedi’i wella gan doddyddion (ssNMR) i egluro strwythurau a defnyddiodd dechnegau o’r math i helpu i ddatrys strwythurau llawer o gynhyrchion naturiol. Ym maes cemeg boron magodd ddiddordeb mewn adweithiau organoboron a dechreuodd ei grŵp ddatblygu maes adweithiau ad-drefnu wedi’u cyflyrru gan electroffilau ymysg organoboradau anhrwythedig. Denodd y cyhoeddiad cyntaf yn y maes hwn, oedd yn cynnwys synthesis cetonau drialcylcyanoborad, sylw rhyngwladol ar unwaith, gan gynnwys o du’r gwyddonydd organoboron blaenllaw H. C. Brown (a aeth yn ei flaen i ennill Gwobr Nobel mewn Cemeg yn 1979 am ei waith ar hydroboryddu a chymwysiadau organoboranau). Ymwelodd Brown â Manceinion i gyfarfod ag Andrew a daeth y ddau yn gyfeillion tymor hir.

Yn 1971 symudodd Andrew i Goleg y Brifysgol Abertawe (Prifysgol Abertawe bellach) yn Athro Cemeg Organig, lle’r arhosodd tan iddo ymddeol yn 1999. Ar ôl hyn daeth yn Athro Emeritws. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe gwasanaethodd am gyfnodau fel Pennaeth yr Adran Cemeg a Dirprwy Bennaeth y Brifysgol, ac yn Abertawe yr adeiladodd ei enw da rhyngwladol am ymchwil. Drwy gydol ei yrfa datblygodd raglenni ymchwil gwreiddiol mewn cemeg organig synthetig, gan adeiladu ar ei waith ar heterogylchoedd ocsigen ac organoboron. Cydnabuwyd ei waith ymchwil boron gyda dyfarnu Medal Tilden y Gymdeithas Cemeg Frenhinol yn 1981. Gyda’i gilydd, adroddwyd ar ei gyfraniadau gwyddonol mewn dros 300 o bapurau ac adolygiadau, a hefyd ysgrifennodd sawl pennod a chydawdurodd gyfrol (Borane Reagents, gyda H. C. Brown a K. Smith).

Roedd effaith gwaith Andrew ar gemeg organig synthetig yn sylweddol. Hefyd adeiladodd uned cemeg organig o ansawdd uchel yn Abertawe gan ddenu gwyddonwyr blaenllaw fel H. C. Brown ac A. Suzuki (a enillodd Wobr Nobel yn 2010) i dreulio cyfnodau estynedig yn athrawon ymweliadol yno. Denodd ei enw da lawer o fyfyrwyr o’r DU a thramor, yn ogystal â gweithwyr ôl-ddoethuro o Ewrop, yr Unol Daleithiau, India, Japan a’r Dwyrain Canol.

Roedd Andrew yn wyddonydd proffesiynol cyflawn ac ymunodd â’i gorff proffesiynol, y Sefydliad Cemeg Brenhinol ar y pryd, yn 1958, gan ennill cydnabyddiaeth Cymrodoriaeth (FRIC) yn 1976. Fe’i hetholwyd i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2012 am ei gyfraniadau gwyddonol. Fodd bynnag roedd hefyd yn unigolyn diwylliedig yn ehangach, ac ar ôl ymddeol cafodd amser i ysgrifennu barddoniaeth a straeon byr, yn aml yn ymwneud â’r Ail Ryfel Byd. Priododd dair gwaith, yn fwyaf diweddar â Susan Smith ar 22 Ionawr 1994. Gallodd ddathlu ei briodas aur gyda Susan eleni. Mae ganddo blant o bob un o’i briodasau ac mae’n gadael pedair merch ac un mab yn ogystal â’i wraig.

Professor Keith Smith FRSC FLSW