Mrs Elin Rhys

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Darlledu Masnachol

Cadeirydd Cwmni, Teledu Telesgop cyf.

Mae Elin Rhys wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y byd darlledu masnachol, a hefyd wedi ymroi i hyrwyddo gwyddoniaeth yn y Gymraeg. Ym 1993, sefydlodd y cwmni aml-gyfrwng Telesgop. Mae hi wedi ennyn parch am ei sgiliau arwain a’i heiriolaeth dros gydraddoldeb yn y gwaith, gan ennill proffil cyhoeddus amlwg. Yn ogystal â hynny, bu’n cadeirio grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a Datblygu Economaidd.