Mr Emyr Humphreys

Etholwyd: 2013

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Llên Saesneg Cymru, Llenyddiaeth Saesneg

Bu Emyr Humphreys yn sefyll fel cawr ar ganol diwylliant llên Cymru am dros ddeng mlynedd a thrigain. Ymddangosodd ei nofel gyntaf, The Little Kingdom, yn 1946, ac ychydig fisoedd yn unig cyn iddo ddathlu ei ben blwydd yn gant fe gyhoeddwyd casgliad newydd o’i gerddi, Shards of Light (2019).  Yn y cyfamser cynhyrchodd gerddi, astudiaethau diwylliannol ac ysgrifau gwleidyddol, sgrifennodd ddramâu a hefyd eu cyfarwyddo, cynhyrchodd ffilmiau dogfen, a chefnogodd Gymdeithas yr Iaith Cymraeg a mudiadau tebyg hyd at gael ei garcharu am gyfnod byr am wneud hynny. Ei gefnogwr cyntaf oedd Graham Greene, ac yn ystod y cyfnod y treuliodd yn sefydlu adrannau drama radio a theledu yng Nghaerdydd bu’n cyfarwyddo  Richard Burton, Siân Phillips, Hugh Griffith a Peter O’Toole. Yn bwysicach fyth cafodd y cyfle bryd hynny i gydweithio’n agos â’i arwr pennaf, Saunders Lewis, a chyda ei ffrind mynwesol, y dramodydd disglair John Gwilym Jones.

Ynghynt, tra’n byw rownd y gornel oddi wrth T. S. Eliot yn Chelsea, manteisiodd ar y cyfle i feithrin cyfeillgarwch â nofelwyr amlwg megis C.P.Snow, Rosamund Lehmann ac Anthony Powell, a mynychodd theatrau’r ddinas er mwyn gwylio Olivier, Gielgud, Ralph Richardson a’r Fonesig Edith Evans yn perfformio.  Bryd hynny roedd yn un o sêr ifainc mwyaf disglair y ffurfafen ddinesig. Ond yna, ac yntau wedi cyrraedd y brig, dewisodd droi cefn ar y cyfan a derbyn swydd athro ysgol ym Mhwllheli. Ac nid dyma’r tro cyntaf, na’r tro olaf, iddo fynnu gosod gofynion Cymru goruwch cyfle ac uchelgais personol. Ar ddiwedd cyfnod euraidd o flwyddyn yn Florence yn syth wedi’r rhyfel fe’i temtiwyd i ymgartrefu yn y ddinas hynafol honno  a chefni’n gyfan gwbl ar Gymru, ond buan y mynnodd ddychwelyd adre. Gosodai dewis moesol yn syth ar ganol y darlun bob amser, ac mae prif lif y naratif yn ei nofelau fel arfer yn cael ei bennu gan y dewisiadau tyngedfennol a wneir gan y prif gymeriadau.

Ond yn gyntaf ac yn olaf, nofelydd oedd Emyr Humphreys. Yn ystod ei oes fe gyhoeddodd fwy na dau ddwsin o nofelau, y rhan fwyaf ohonynt yn ymwneud â chyflwr Cymru, er mor anffasiynol oedd y testun hwnnw. O’r herwydd cydnabyddir yn gyffredinol mai ef yw nofelydd Saesneg gorau Cymru. Mae’n debyg mai Outside the House of Baal (1965), nofel sy’n cynnig inni olwg amlweddog ar ddiwylliant Anghydffurfiol Cymru, yw ei gampwaith; mai A Toy Epic (1958), cipolwg byr ar ddatblygiad  tri chrwt yn Sir y Fflint yn ystod tridegau cythryblus y ganrif ddiwethaf, yw ei waith mwyaf poblogaidd; ac mai The Land of the Living (1970-91), cyfres o saith o nofelau yn dilyn hynt Cymraes  ar hyd yr ugeinfed ganrif, yw y mwyaf uchelgeisiol a phellgyrhaeddgar o’i nofelau.

Ganed Emyr Humphreys ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dewisodd fod yn wrthwynebydd cydwybodol maes o law yn rhannol am ei fod mor ymwybodol yn ifanc o ddioddefaint corfforol a seicolegol ei dad, a wenwynwyd gan nwy tra’n gwasanaethu yn y ffosydd. Brodor o Sir y Fflint ydoedd, a bu’r profiad o fyw yn agos iawn i’r ffin yn fodd iddo feithrin golwg ar Gymru a oedd ar un wedd yn olwg wrthrychol,  oddi allan, ac ar wedd arall yn oddrychol, yn llwyr ymroddgar ac yn ymrwymedig.  Bu’r deublygrwydd yma o fendith iddo  pan yn sgrifennu nofelau, am ei fod yn ei alluogi bob amser i barchu sylw Graham Greene fod yn rhaid i bob gwir nofelydd warchod ‘the chip of ice in the brain.’

Profodd ddwy drṏedigaeth ddiwylliannol yn ystod ei fywyd, y gyntaf pan ond yn fyfyriwr chweched dosbarth. Bryd hynny deffrowyd ei ddychymyg gan y weithred heriol o losgi Penyberth, ac o hynny ymlaen deallai’n iawn  mai gwlad a oedd wedi ei goresgyn gan Loegr, a’i hisraddio o’r herwydd, oedd Cymru. Meithrinodd olwg ‘ôldrefedigaethol’ ar ei wlad ymhell cyn i’r term hwnnw gael ei fathu a mynd yn ffasiynol. A buan y sylweddolodd fod yn rhaid i awdur Cymreig fod yn anghydffurfiwr/ ‘dissident’. Aeth ati i feistroli’r iaith Gymraeg, ac ymunodd â Phlaid Cymru. Ac yna dechreuodd yn araf i feithrin golwg ddeuddiwylliannol ar ei wlad.

Esgorodd y profiad o redeg gwersyll ffoaduriaid sylweddol iawn ei faint yn Florence ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ar drṏedigaeth ddiwylliannol arall. Manteisiodd ar ei gyfle I astudio  diwylliant celf yr Eidal gan ymroi wedyn i ymgyfarwyddo â’i llên yn ogystal. O hynny ymlaen bu ei gariad at yr Eidal yn ail ond i’w gariad at Gymru. Pan ymwelais ag ef ddiwethaf, ychydig fisoedd cyn ei farw, fe’i ces yn darllen y Divina Commedia yn y gwreiddiol unwaith yn rhagor, ond gyda throsiad godidog Daniel Rees ohono i’r Gymraeg yn ei ymyl.  Ei gariad at yr Eidal oedd conglfaen yr Europhilia pybyr a arddelwyd gan Emyr hyd ddiwedd ei ddyddiau. Yr oedd yn  Gymro Ewropeaidd ymhell cyn i’r ymadrodd hwnnw gael ei fabwysiadu gan Gymry eraill, ond derbyniai’n drist y byddai’n rhaid i’r Cymry feithrin mwy o Gymreigrwydd cyn medru uniaethu ag Ewrop.

Credai’n gryf fod ar awduron Cymru gyfrifoldeb i ymroi i weithgarwch cymdeithasol, diwylliannol, a gwleidyddol yn ogystal ag i lenydda, am fod cyflwr eu gwlad mor enbydus.  O’r herwydd fe fynnai fod yn ddeallusyn cyhoeddus yn ogystal ag yn awdur, gan ddilyn patrwm cyffredin y Cyfandir, ac ystyriai ei hun yn awdur Ewropeaidd yn hytrach nag yn awdur Prydeinig. Er iddo gael ei fagu yn aelod o’r Eglwys yng Nghymru, newidiodd i fod yn Annibynnwr, a rhannai pwyslais yr enwad hwnnw ar gyfrifoldeb moesol pob unigolyn. O’r herwydd, roedd yn amheus o unrhyw ymyrraeth o du y wladwriaeth ac yn ymwybodol iawn o afael ddirgel hegemoni y byd Eingl-Americanaidd ym meddwl y Cymry.

Ac yntau yn cael ei gydnabod yn un o fawrion llên y Gymru gyfoes, ac yn un a ddylanwadodd ar gynifer o feysydd cyhoeddus ei wlad, yr oedd gyda’r cyntaf i gael ei wahodd  i fod yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru pan ffurfiwyd y corff cenedlaethol newydd hwnnw. Derbyniodd y gwahoddiad hwnnw yn y dull diymhongar a chwrtais a’i nodweddai bob amser. Bu ei farw yn golled enfawr i ddiwylliant llên Cymru, ac fe wêl y Gymdeithas Ddysgedig hithau eisiau un o’i Chymrodyr mwyaf disglair yn ddirfawr

 

M. Wynn Thomas