Yr Athro Gary Beauchamp

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Addysg

Athro Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Cyn-athro ysgol gynradd yng Nghaerdydd yw’r Athro Beauchamp. Mae ganddo broffil rhyngwladol, yn enwedig o ran y defnydd o dechnolegau rhyngweithiol wrth ddysgu ac addysgu, o’r blynyddoedd cynnar hyd at y brifysgol. Mae ei gyfraniad at ddatblygiad Fframwaith Cymhwysedd Digidol arloesol Llywodraeth Cymru yn dangos dylanwad ei arbenigedd ar bolisi addysg yng Nghymru.