Y Parchedig Athro Gwilym Henry Jones

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Diwinyddiaeth, Moeseg

Yn Rhos-fawr yn Llŷn y ganwyd yr Athro Gwilym H. Jones a hynny yn 1930. Cafodd Gwilym H. – fel yr adwaenid ef gan lawer – yrfa academaidd ddisglair. Ym 1950, ar ôl cwblhau ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth yn fyfyriwr i’r Brifysgol ym Mangor, lle y graddiodd gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Hebraeg. Oddi yno aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen i ddarllen am radd mewn Diwinyddiaeth, ac yna’r MA. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant diwinyddol, derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Presbyteraidd ym Môn a Rhuthun.

Ond cymharol fyr oedd ei gyfnod fel gweinidog, gan iddo gael ei benodi’n ddarlithydd yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ym 1961, ac ymhen pum mlynedd ei benodi’n ddarlithydd Hen Destament yn ei hen Adran ym Mhrifysgol Bangor. Yno y treuliodd weddill ei yrfa academaidd, gan gael ei benodi maes o law yn Bennaeth yr Adran a’i ddyrchafu i Gadair Bersonol.

Bûm yn fyfyriwr iddo yn y saithdegau cynnar ac roedd yn diwtor parod iawn ei gymwynas a mawr ei gonsyrn dros yr holl fyfyrwyr dan ei ofal. Roedd ei ddosbarthiadau’n batrwm o amynedd a charedigrwydd a brwdfrydedd di-feth dros ei bwnc. Pan ddeuthum yn ôl i Fangor ddiwedd y saithdegau yn ddarlithydd ifanc, bu cydweithio hapus iawn rhyngom a barhaodd am ddeunaw mlynedd, a phan benodwyd Gwilym yn Bennaeth yr Adran bu’n ddigon doeth i newid strwythur y cyrsiau ac ychwanegu amryw o rai newydd er mwyn gwneud y radd yn fwy cyfoes a pherthnasol. Daeth yr Adran Efrydiau Beiblaidd bellach yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Roedd y Beibl, wrth gwrs, yn parhau’n ganolog, ond daeth cyfle i’r myfyrwyr ehangu eu diddordeb ym maes crefydd. Nid rhyfedd i nifer y myfyrwyr yn yr Adran gynyddu’n sylweddol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.

Roedd Gwilym yn bregethwr graenus, a’i neges bob amser yn gryno, yn gyfoes ac yn berthnasol. Cyhoeddwyd pymtheg o’i bregethau gan Wasg Pantycelyn yn y gyfrol O Sgrepan Teithiwr (2001) – y teitl yn adlewyrchu’r ffaith mai profiadau a gafodd wrth deithio, boed ar wyliau neu gyda’i waith, a ysgogodd nifer o’r pregethau yn y gyfrol. Roedd ei gyfraniadau mynych dros y blynyddoedd i ‘Munud i Feddwl’ ar Radio Cymru hefyd yn tystio i’w allu i gyflwyno neges mewn modd cryno a chofiadwy.
Roedd Gwilym yn fawr iawn ei barch ymhlith ysgolheigion Beiblaidd ledled Prydain, ac arwydd o hynny oedd y ffaith iddo gael ei ethol yn Llywydd y Society for Old Testament Study ym 1995, y brif gymdeithas Brydeinig yn y maes; dyna’r anrhydedd fwyaf y gellir ei rhoi i ysgolhaig ym myd yr Hen Destament. Enillodd radd PhD am waith ar oraclau’r proffwydi ym 1970, a maes o law dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei waith ysgolheigaidd cyhoeddedig ar yr Hen Destament. Mae’r ffaith iddo gael ei anrhydeddu hefyd gyda DLitt, ac iddo gael ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, yn dyst pellach o ddyfnder ac ehangder ei ysgolheictod.

Roedd Gwilym yn ysgolhaig rhyfeddol o gynhyrchiol gydol y blynyddoedd. Roedd bob amser yn ymwybodol o’r angen i gyhoeddi gweithiau ysgolheigaidd yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, a byddai’n ymhyfrydu mai’r Adran ym Mangor oedd y gyntaf yn y Brifysgol (ar wahân i Adran y Gymraeg) i alluogi myfyrwyr i ddilyn cwrs llawn a sefyll eu harholiadau yn eu mamiaith. Cyhoeddodd nifer helaeth o erthyglau yn Gymraeg yn Y Traethodydd a Diwinyddiaeth, ac yn Saesneg yn y cyfnodolion Vetus Testamentum a Zeitschrift für die alttestamentliche Wissenschaft. Bu hefyd yn awdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys esboniadau yn Gymraeg ar lyfr Eseia a llyfr y Salmau, a dwy gyfrol swmpus o esboniad yn Saesneg ar lyfrau’r Brenhinoedd yn y gyfres safonol The New Century Bible. Ym 1966 ymddangosodd ei gyfrol Arweiniad i’r Hen Destament, cyfrol a brofodd yn gymorth hwylus i fyfyrwyr ysgol a choleg a oedd yn awyddus i wybod am y tueddiadau diweddaraf mewn astudiaethau beirniadol o’r Hen Destament.

Ym 1974 penderfynodd Adran Diwinyddiaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru hybu cyfres o lawlyfrau yn Gymraeg ar gyfer myfyrwyr a oedd yn astudio pynciau Beiblaidd a chrefyddol, a sefydlwyd ‘Cyfres Beibl a Chrefydd’, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru. Y gyfrol gyntaf i ymddangos yn y gyfres newydd oedd Gramadeg Hebraeg y Beibl a luniwyd ar y cyd rhwng Gwilym a’i gyfaill yn yr Adran, Dafydd R. Ap-Thomas. Bu’r ddau ohonynt yn dysgu iaith yr Hen Destament i’w myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg am flynyddoedd lawer, ac roedd y ddau ohonynt yn argyhoeddedig bod manteision sylweddol i’r Cymro ddysgu’r Hebraeg trwy gyfrwng ei iaith ei hun. Gwilym fu hefyd yn gyfrifol am y bedwaredd gyfrol yn y gyfres, sef Diwinyddiaeth yr Hen Destament, a ymddangosodd ym 1979. Roedd hwn yn waith arloesol yn y Gymraeg ar y pryd, gan i’r awdur ystyried y prif gasgliadau mewn canghennau eraill o‘r maes, boed y rheini’n astudiaethau ieithyddol, archeolegol, hanesyddol neu lenyddol.

Cafwyd gan Gwilym hefyd ymdriniaeth feistrolgar o’r hanesion am y proffwyd Nathan yn ei gyfrol The Nathan Narratives, a gyhoeddwyd ym 1990, a llwyddodd i grynhoi’n hynod fedrus gasgliadau ysgolheigion diweddar ar lyfrau’r Cronicl yn ei gyfrol 1 & 2 Chronicles a ymddangosodd yn y gyfres Old Testament Guides gan Wasg Academaidd Sheffield ym 1993. Dengys y gweithiau a gynhyrchodd Gwilym dros y blynyddoedd na fodlonodd ar gyfyngu ei dalentau i gyhoeddiadau ar gyfer arbenigwyr; mynnodd roi o ffrwyth ei lafur i’r lleygwr a’r werin ddeallus hefyd.

Cefais i’r fraint o fod yn aelod o’r un panel â Gwilym a oedd yn gyfrifol am baratoi’r cyfieithiad Cymraeg o’r Hen Destament ar gyfer y Beibl Cymraeg Newydd, a rhaid cydnabod y gwaith aruthrol a wnaeth dros gyfnod o chwarter canrif i sicrhau bod y cyfieithiad hwnnw yn gweld golau dydd mewn da bryd. Ym mhob un o gyfarfodydd y panel roedd gan Gwilym y gallu i daro ar yr union air Cymraeg a fyddai’n mynegi’r hyn oedd yn y testun Hebraeg gwreiddiol.

Cyflwynwyd cyfrol deyrnged iddo ar achlysur ei ymddeoliad sef Cenadwri a Chyfamod a olygwyd gan Gareth Lloyd Jones, ac roedd hynny’n gyfle i’w gydweithwyr ddangos eu gwerthfawrogiad o’i gyfraniad diflino i ysgolheictod Beiblaidd. Bydd ei lu edmygwyr yn cofio amdano fel diwinydd disglair, darlithydd ysbrydoledig, ac ysgolhaig Beiblaidd o’r radd flaenaf. Wedi i Gwilym ymddeol o’r Adran ym 1995, roedd chwithdod am ei gwmnïaeth ddiddan, am ei arweiniad cadarn a di-lol, ac am y ddysg ddihysbydd a rannai mor hael. Bydd y golled i ysgolheictod yr Hen Destament yn fawr ar ei ôl.

Yr Athro Eryl Wynn Davies DD FLSW