Professor Harold Carter

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Daearyddiaeth

Athro Emeritws Daearyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Yn ystod ei yrfa academaidd, bu’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn Athro Daearyddiaeth Ddynol Gregynog. O 1983 tan iddo ymddeol yn 1986 roedd yn Gyfarwyddwr Adran Daearyddiaeth Aberystwyth. Cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llanrwst 1989. Yn arbenigwr ym maes daearyddiaeth ddynol Gymraeg, traddododd ddarlith radio flynyddol BBC Cymru yn 1988, dan y teitl Diwylliant, Iaith a Thiriogaeth.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd yr Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Er pan gyrhaeddodd yr Adran Daearyddiaeth ym 1949, bu cyfraniad yr Athro Harold Carter i fywyd academaidd yr adran a’r brifysgol yn ehangach yn enfawr.

“Gwnaeth yr Athro Carter gyfraniad nodedig i ddatblygiad daearyddiaeth fel disgyblaeth.

“Daeth ei waith cynnar ar ddaearyddiaeth drefol – yng Nghymru a thu hwnt – yn enghraifft i ddaearyddwyr oedd yn gweithio yn y maes hwn.

“Ei angerdd arall oedd ymchwilio i ddaearyddiaeth yr iaith Gymraeg, a daeth ei erthyglau a’i lyfrau ar y thema – drwy gydweithio gyda’r Athro Emrys Bowen, ac yn fwy diweddar yr Athro John Aitchison – yn ddarllen gofynnol, nid yn unig i academyddion â diddordeb yn y themâu, ond hefyd i wneuthurwyr polisi ac ymgyrchwyr.”

Paratowyd gan BBC Cymru Fyw