Yr Athro Hazel Davey

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Bioleg

Athro Bioleg, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r Athro Hazel Davey yn ymchwilio i furum pobi, a ddefnyddir yn eang wrth gynhyrchu bwyd a bragu, mewn biodechnoleg ac fel organeb enghreifftiol mewn ymchwil academaidd. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â llawer o sefydliadau y tu allan i addysg uwch, gan gynnwys Byddin yr Unol Daleithiau, i adnabod micro-organebau mewn samplau amgylcheddol fel rhan o brosiect i amddiffyn rhag arfau biolegol.