Yr Athro Helen Roberts

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Daearyddiaeth Ffisegol

Athro Daearyddiaeth Ffisegol a Chyfarwyddwr Rhagoriaeth Ymchwil ac Effaith, Prifysgol Aberystwyth.

Yr Athro Roberts, un o geocronolegwyr Cwarternaidd mwyaf blaenllaw’r byd, yw Cyfarwyddwr Rhagoriaeth ac Effaith Ymchwil ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arwain labordy ymchwil byd-enwog sydd ymhlith y labordai â’r offer gorau yn y byd, a’r gallu unigryw i fesur ymoleuedd. Mae gwaith ymchwil cyfredol yr Athro Roberts yn cynnwys modd y gall gwaddod mewn llynnoedd yn Affrica fwrw goleuni ar esblygiad ac arloesedd dynol, ac ar wasgariad ei hynafiaid.