Ifan Hughes

Etholwyd: 2020

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Ffiseg, Ffiseg - Atomig

Athro Ffiseg, Prifysgol Durham

Yn wreiddiol o Ynys Hir, Cwm Rhondda, mynychodd Ifan Ysgol Y Bryn, Cwmllynfell, ac Ysgol Gyfyn Ystalyfera.  Astudiodd ffiseg yn Imperial College Llundain, cyn gwneud DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen.  Bu yn ymchwilydd ym Mhrifysgolion Yale a Sussex.  Mae wedi bod yn Durham ers 1999, lle mae bellach yn athro.

Mae Ifan wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i ymchwil mewn pedwar maes penodol o ffiseg atomig: opteg gydag atomau, sbectrosgopeg, rhyngweithiadau  atom-golau, a sbectrosgopeg laser mewn meysydd magnetig mawr. Mae ei astudiaethau o sbectrosgopeg atomig wedi dangos dro ar ôl tro y gall dadansoddiad trylwyr ddatgelu set gyfoethog o ffenomenau a thechnegau annisgwyl.

Mae Ifan yn awdur dau lyfr sy’n pontio ei weithgareddau ymchwil ac addysgu:

Measurements and Their Uncertainties (OUP 2010) ac Optics f2f (OUP 2019).

Manteisiodd Ifan  ar nifer o gyfleodd i esbonio rhyfeddodau’r byd cwantwm i’r cyhoedd, gan gynnwys traddodi’r ddarlith wyddonol yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe –  Ias oer: y laser a mater oera’r cread.