Y Fonesig Jocelyn Bell Burnell

Etholwyd: 2020

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Astroffiseg

Er bod y Fonesig Jocelyn yn adnabyddus yn anad dim am ddarganfod pylsarau radio tra’n fyfyrwraig PhD yng Nghaergrawnt, mae hi wedi cyfrannu’n helaeth at ystod eang o feysydd yn ystod oes o ymrwymiad i’r gwyddorau a’r gymdeithas.

Yn ogystal â chyfrannu at astroffiseg ynni uchel (pelydrau X a phelydrau gama) yn benodol, mae’r Fonesig Jocelyn wedi bod yn arloeswraig ac yn ddelfryd ymddwyn i fenywod a grwpiau eraill a dangynrychiolir ym maes seryddiaeth ac yn y gwyddorau yn gyffredinol. Hi oedd y fenyw gyntaf i’w hethol yn Llywydd y Sefydliad Ffiseg, y fenyw gyntaf i’w hethol yn Llywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r ail fenyw i’w hethol yn Llywydd y Gymdeithas Astronomegol Frenhinol.

Yn ogystal â’i gwaith gwyddonol, mae’r Fonesig Jocelyn wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, wedi cyfranogi mewn llawer o raglenni radio a theledu, ac mae’n siaradwraig ddiflino sy’n hyrwyddo gwyddoniaeth, yn ogystal â pherthynas gwyddoniaeth â chrefydd, y celfyddydau a materion eraill. Yn 2018, dyfarnwyd  “Gwobr Darganfyddiad” gwerth $3 miliwn iddi hi i gydnabod ei gwaith, a phenderfynodd roi’r wobr i’r Sefydliad Ffiseg i ariannu ysgoloriaethau PhD ar gyfer myfyrwyr sy’n perthyn i grwpiau a dangynrychiolir ym maes gwyddoniaeth.